
2011 Rhif 849 (Cy.126) (C.34)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Gorchymyn Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011
Gwnaed 17 Mawrth 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 18(3) o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw' r Gorchymyn hwn yw the Gorchymyn Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010.
Y diwrnod penodedig
2 
18 Mawrth 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau'r Mesur, a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2011
YR ATODLEN
DARPARIAETHAU MESUR CODI FFIOEDD AM WASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL (CYMRU) 2010 A DDAW I RYM AR 18 MAWRTH 2011
Erthygl 2



Darpariaeth Pwnc
Adran 1 Pŵer cyffredinol i godi ffioedd am wasanaethau gofal
Adran 2 Uchafswm y ffioedd
Adran 3 Personau a gwasanaethau na chaniateir gosod ffioedd ynglŷn â hwy
Adran 4 Gwahoddiad i ofyn am asesiad modd
Adran 5 Dyletswydd i gynnal asesiad modd
Adran 6 Amodau sy'n arwain at y ddyletswydd i gynnal asesiad modd
Adran 7 Penderfyniadau sy'n ymwneud â gallu i dalu
Adran 8 Effaith penderfyniadau sy'n ymwneud â'r gallu i dalu
Adran 9 Awdurdod yn disodli penderfyniadau sy'n ymwneud â gallu i dalu
Adran 10 Darparu gwybodaeth am ffioedd
Adran 11 Adolygu penderfyniadau ar godi ffioedd
Adran 12 Taliadau uniongyrchol
Adran 13 Gwasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt
Adran 14 Diwygiadau i Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983
Adran 15 Diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970
Adran 16 Diwygio Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001
