
2011 Rhif 829 (Cy.124) (C.33)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2011
Gwnaed 16 Mawrth 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 269(3) ac (8) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.
Y diwrnod penodedig
2 

(1) 1 Ebrill 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru—
(a) adran 49 (personau a gedwir yn gaeth mewn llety ieuenctid: cymhwyso darpariaethau) at ddibenion—
(i) adran 50 i'r graddau y dygir hi i rym gan is-baragraff (b); a
(ii) adran 52 o'r Ddeddf;
(b) adran 50 (personau a gedwir yn gaeth mewn llety ieuenctid: darpariaeth bellach) i'r graddau y mae'n mewnosod y darpariaethau a ganlyn yn Neddf Addysg 1996—
 adran 562A(3);
 adran 562B(1) i (3);
 adran 562C(1) a (2);
 adran 562F(1) i (6) ac (11);
 adran 562I; ac
 adran 562J;
(c) adran 51 (cadw plentyn neu person ifanc: rhoi gwybod i awdurdodau lleol);
(ch) adran 52 (rhyddhad plentyn neu person ifanc sy'n cael ei gadw sydd ag anghenion addysgol arbennig); a
(d) paragraffau 54 i 56 o Atodlen 6.
Huw Lewis
Y Dirprwy Weinidog dros Blant, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru.
16 Mawrth 2011