
2011 Rhif 824 (Cy.123) (C.32)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2011
Gwnaed 16 Mawrth 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 44(3) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enw
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2011.
Diwrnod penodedig
2 
18 Mawrth 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer rhoi mewn grym y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 mewn perthynas â hawlogaeth i daliad mewn perthynas ag addysg uwch—
(a) adran 21(1), (3) a (4); a
(b) adran 21(2) i'r graddau nad ydyw eisoes wedi ei chychwyn gan erthygl 2(e) o Orchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2010.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
16 Mawrth 2011