
2011 Rhif 710 (Cy.111)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 7 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Mawrth 2011
Yn dod i rym 6 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 512ZB(4)(aa)(ii) a 568 o Ddeddf Addysg 1996, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011 ac mae'n dod i rym ar 6 Ebrill 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 mae i “Credyd Treth Plant” a “Credyd Treth Gwaith” yr ystyr a roddir i (“Child Tax Credit”) a (“Working Tax Credit”) yn Neddf Credydau Treth 2002;
 ystyr “Gorchymyn 2003” (“the 2003 Order”) yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 2003;
 ystyr “incwm blynyddol” (“annual income”) yw'r incwm am y flwyddyn dreth wedi ei gyfrifo yn unol â Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002.
Diwygio
3 

(1) Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2003.
(2) Yn lle erthygl 3 o Orchymyn 2003, rhodder—“
Credydau treth rhagnodedig
3 
Rhagnodir Credyd Treth Plant at ddibenion adran 512ZB(4)(aa)(ii) o Ddeddf Addysg 1996 –
(a) pan fo hawl gan riant P i gael Credyd Treth Plant ond dim hawl i gael Credyd Treth Gwaith; a
(b) pan fo rhiant P yn cael Credyd Treth Plant yn rhinwedd dyfarniad ar sail incwm blynyddol nad yw'n uwch na'r swm o £16,190.”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2011