
2011 Rhif 708 (Cy.110)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2011
Gwnaed 9 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Mawrth 2011
Yn dod i rym 11 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Ebrill 2011.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Symiau y mae eu hangen at anghenion personol
2 
Y swm y bydd awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 fydd £23.00 yr wythnos.
Dirymu
3 
Dirymir drwy hyn reoliad 2 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2010.
Diwygio rheoliad 20A o'r Prif Reoliadau
4 

(1) Yn y Prif Reoliadau, ym mharagraff (2) o reoliad 20A (Terfyn cyfalaf – Cymru), yn lle'r ffigur “£22,000”, rhodder “£22,500”.
(2) Ar ôl paragraff (2) o reoliad 20A, mewnosoder y paragraff canlynol—“
(3) No resident is liable to pay for accommodation, or contribute to the cost of accommodation, from capital where the resident’s capital, calculated in accordance with regulation 21, does not exceed the amount specified in paragraph (2).”.
Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau
5 

(1) Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau (symiau i'w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion), ym mharagraff 10(1), yn lle “paragraphs 29 and 31, the amount specified in paragraph 15(1) of Schedule 9 to the Income Support Regulations (relevant payments) of”, rhodder “paragraph 29,”.
(2) Yn Rhan 2 o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau (darpariaethau arbennig mewn perthynas â thaliadau elusennol neu wirfoddol a rhai pensiynau)—
(a) hepgorer paragraff 30; a
(b) ym mharagraff 31, yn lle “paragraphs 10(1) and 11” rhodder “paragraph 11”.
Diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau
6 
Yn Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau (cyfalaf sydd i'w ddiystyru)—
(a) ar ôl paragraff 10, mewnosoder—“
(10A) Any amount which would be disregarded under paragraph 12A of Schedule 10 to the Income Support Regulations(personal injury payments) with the exception of any payment or any part of any payment that has been specifically identified by a court to deal with the cost of providing care.”; a
(b) yn lle paragraff 19 rhodder—“
 Any amount which—
(a) falls within paragraph 44(2)(a), and would be disregarded under paragraph 44(1)(a) or (b), of Schedule 10 to the Income Support Regulations; or
(b) would be disregarded under paragraph 45(a) of that Schedule.”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
9 Mawrth 2011