
2011 Rhif 699 (Cy.106)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad a fu'n Derbyn Gofal (Cymru) 2011
Gwnaed 8 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Mawrth 2011
Yn dod i rym 1 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 23ZA(1)(b), (3) a (4), 104(4) a 104A o Ddeddf Plant 1989, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad a fu'n Derbyn Gofal (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “A” (“A”) yw plentyn a fu'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ond nad yw'n derbyn gofal ganddo bellach o ganlyniad i'r amgylchiadau a ragnodir yn rheoliad 3;
 ystyr “awdurdod lleol cyfrifol” (“responsible local authority”) yw'r awdurdod lleol a oedd yn darparu gofal i A cyn i A gael ei gadw'n gaeth;
 ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl y Banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 ystyr “R” (“R”) yw cynrychiolydd yr awdurdod cyfrifol a benodir i ymweld ag A yn unol â'r trefniadau a wnaed ganddo o dan adran 23ZA o Ddeddf 1989;
 “rheolwr achos tîm troseddau ieuenctid perthnasol” (“relevant youth offending team case manager”) yw'r person o fewn tîm troseddau ieuenctid yr awdurdod lleol cyfrifol sy'n rheoli achos A;
 ystyr “sefydliad” (“institution”) yw sefydliad troseddwyr ifanc, canolfan hyfforddi ddiogel neu gartref diogel i blant; ac
 ystyr “cartref diogel i blant” (“secure children’s home”) yw cartref plant sy'n cael ei ddefnyddio at y diben o gyfyngu ar ryddid person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i blentyn sy'n blentyn perthnasol at ddibenion adran 23A o Ddeddf 1989.
Amgylchiadau rhagnodedig at ddibenion adran 23ZA o Ddeddf 1989
3 
Yr amgylchiadau rhagnodedig at ddibenion adran 23ZA(1)(b) o Ddeddf 1989 yw bod y plentyn wedi ei gadw'n gaeth yn unol â gorchymyn llys mewn—
(a) sefydliad troseddwyr ifanc,
(b) canolfan hyfforddi ddiogel, neu
(c) cartref diogel i blant.
Amlder ymweliadau
4 

(1) Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau bod ei gynrychiolydd (“R”) yn ymweld ag A—
(a) o fewn deng niwrnod ar ôl i A gael ei gadw'n gaeth am y tro cyntaf, cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol; a
(b) wedi hynny ar unrhyw adeg pan wneir cais rhesymol i wneud hynny gan—
(i) A,
(ii) aelod o staff y sefydliad lle y mae A wedi ei gadw'n gaeth,
(iii) unrhyw riant i A neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto, neu
(iv) y rheolwr achos tîm troseddau ieuenctid perthnasol.
(2) Caiff yr awdurdod lleol cyfrifol drefnu i R wneud ymweliadau ychwanegol ag A gan roi sylw i unrhyw argymhelliad a wnaed gan R yn unol â rheoliad 6(1)(b).
Y modd y mae ymweliadau i'w cynnal
5 
Ar bob ymweliad, rhaid i R siarad yn breifat ag A oni bai—
(a) bod A, ac yntau a'i oedran a'i ddealltwriaeth yn ddigonol iddo wneud hynny, yn gwrthod,
(b) bod R o'r farn ei bod yn amhriodol i wneud hyn gan roi sylw i oedran a dealltwriaeth A, neu
(c) na all R wneud hynny.
Adroddiadau ar ymweliadau
6 

(1) Rhaid i R ddarparu adroddiad ysgrifenedig ar bob ymweliad. Rhaid iddo gynnwys—
(a) asesiad R, gan roi sylw i ddymuniadau a theimladau A, o ran bod lles A yn cael ei ddiogelu a'i hybu'n ddigonol tra bo wedi ei gadw'n gaeth,
(b) argymhellion R ynglŷn ag amseriad ac amlder unrhyw ymweliadau pellach gan R,
(c) unrhyw drefniadau eraill y mae R yn ystyried y dylid eu rhoi ar waith er mwyn hybu cyswllt rhwng A a theulu A neu er mwyn diogelu a hybu lles A,
(ch) asesiad R, ynglŷn â sut y dylai lles A gael ei ddiogelu a'i hybu'n ddigonol wedi iddo gael ei ryddhau o gadwad, yn benodol–
(i) os bydd angen i'r awdurdod lleol cyfrifol neu awdurdod lleol arall ddarparu llety ar gyfer A pan ryddheir ef, a
(ii) os dylai'r awdurdod lleol cyfrifol neu awdurdod lleol arall ddarparu unrhyw wasanaeth arall wrth iddynt arfer eu dyletswyddau o dan Ddeddf 1989.
(2) Rhaid i R, wrth wneud unrhyw asesiad o dan baragraff (1), onid yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny neu ei fod yn anghyson â lles A, gan gymryd i ystyriaeth farn—
(a) unrhyw riant i A, neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros A, a
(b)  aelodau perthnasol o staff y sefydliad lle y mae A wedi ei gadw'n gaeth.
(3) Rhaid i'r awdurdod lleol perthnasol roi copi o'r adroddiad i'r rhai a ganlyn—
(a) A, oni fyddai'n amhriodol i wneud hynny,
(b) person sy'n dod o fewn paragraff (2)(a), oni fyddai gwneud hynny'n niweidio lles pennaf A,
(c) llywodraethwr, cyfarwyddwr neu reolwr cofrestredig y sefydliad lle y mae A yn cael ei gadw'n gaeth,
(ch) y rheolwr achos tîm troseddau ieuenctid perthnasol,
(d) yr awdurdod lleol lle y mae A wedi ei gadw'n gaeth, pan fo hwnnw'n wahanol i'r awdurdod lleol cyfrifol, ac
(dd) unrhyw berson arall a ddylai gael copi o'r adroddiad yn nhyb yr awdurdod lleol cyfrifol, gan roi sylw i asesiad R.
Cyngor, cefnogaeth a chymorth
7 
Pan fo trefniadau yn cael ei gwneud yn unol ag adran 23ZA(2)(b) o Ddeddf 1989 bod cyngor priodol, cefnogaeth briodol a chymorth priodol ar gael i A, rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau bod—
(a) y trefniadau—
(i) yn briodol, gan roi sylw i oedran a dealltwriaeth A, a
(ii) rhoi ystyriaeth ddyledus i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir ieithyddol a diwylliannol A, ac i unrhyw anabledd a all fod gan A, a
(b) cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, gan roi sylw i oedran a dealltwriaeth A, fod A yn gwybod sut i gyrchu cyngor, cefnogaeth a chymorth priodol ganddo, fel yr awdurdod lleol cyfrifol.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2011