
2011 Rhif 693 (Cy.105)
ANIFEILIAID, CYMRU
Gorchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) 2011
Gwnaed 8 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Mawrth 2011
Yn dod i rym 31 Mawrth 2011
Mae Gweinidogion Cymru—
 a hwythau wedi eu bodloni bod twbercwlosis yn bodoli ymhlith aelodau gwyllt o rywogaeth y mochyn daear yn yr ardal reoli a bod y twbercwlosis hwnnw wedi ei drosglwyddo neu'n cael ei drosglwyddo o foch daear i anifeiliaid o unrhyw fath yn yr ardal honno;
 a hwythau wedi eu bodloni bod difa aelodau gwyllt o rywogaeth y mochyn daear yn yr ardal honno yn angenrheidiol er mwyn dileu neu leihau'n sylweddol nifer yr achosion o dwbercwlosis mewn anifeiliaid o unrhyw fath yn yr ardal honno;
 ar ôl ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn unol ag adran 21(3) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981; a
 hwythau wedi eu bodloni mai defnyddio'r dull neu'r dulliau difa a bennir yn erthygl 3(2) o'r Gorchymyn hwn yw'r ffordd fwyaf priodol dros gyflawni'r difa hwnnw, gan roi sylw i'r holl ystyriaethau perthnasol ac, yn benodol, yr angen i osgoi dioddefaint diangen i aelodau gwyllt y rhywogaeth o dan sylw, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 21(2), (4) a (5) ac 86(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) 2011 a daw i rym ar 31 Mawrth 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardal reoli” (“control area”) yw'r ardal, a ffurfir o dir yn siroedd Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin, sydd wedi ei lliwio'n goch ar y map a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru dyddiedig 7 Mawrth 2011 ac a farciwyd “Ardal Reoli Moch Daear 2011”; ac
 ystyr “mochyn daear” (“badger”) yw anifail gwyllt sy'n perthyn i'r rhywogaeth Meles meles o urdd y Carnivore.
Cymhwyso'r Gorchymyn
2 
Mae'r Gorchymyn hwn—
(a) yn gymwys i'r ardal reoli;
(b) yn gymwys i dwbercwlosis; ac
(c) yn ymwneud â rhywogaeth y mochyn daear.
Difa moch daear
3 

(1) Caiff swyddog awdurdodedig ddifa moch daear yn yr ardal reoli gan ddefnyddio un o'r dulliau a nodir ym mharagraff (2).
(2) Rhaid i'r moch daear—
(a) cael eu trapio mewn cawell a naill ai—
(i) cael eu saethu; neu
(ii) cael pigiad marwol; neu
(b) cael eu saethu heb gael eu trapio mewn cawell.
(3) Eiddo Gweinidogion Cymru yw carcas neu ran o garcas unrhyw fochyn daear a gaiff ei ddifa o dan y Gorchymyn hwn, a rhaid peidio â'i symud oddi ar y tir neu'r fangre lle y cafodd y mochyn daear ei ddifa, na gwaredu'r carcas neu'r rhan o garcas mewn unrhyw ffordd heb awdurdod Gweinidogion Cymru.
Gwaharddiadau
4 
Ni chaiff neb—
(a) caethiwo moch daear, eu llochesu, eu cuddio neu eu hamddiffyn mewn ffordd arall gyda'r bwriad o atal eu difa;
(b) rhwystro neu ymyrryd mewn unrhyw ffordd arall ag unrhyw beth sydd wedi ei wneud neu ei ddefnyddio, sy'n cael ei wneud neu ei ddefnyddio, neu sydd i'w wneud neu i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â'r difa hwnnw; neu
(c) helpu, annog, cynghori neu gaffael person arall i gyflawni gweithred o'r fath.
Dirymu
5 
Mae Gorchymyn Dileu Twbercwlosis (Cymru) 2009 wedi ei ddirymu.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2011