
2011 Rhif 676 (Cy.99)
CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, CYMRU
Rheoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cyfrifon Swyddogion Canlyniadau) 2011
Gwnaed 2 Mawrth 2011
Yn dod i rym 25 Mawrth 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 23(10) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (“Gorchymyn 2007”) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn—
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cyfrifon Swyddogion Canlyniadau) 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 25 Mawrth 2011.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “cyfrif” (“account”) yw cyfrif a gyflwynir o dan erthygl 23(7) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 ar gyfer talu costau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol ar gyfer etholiad Cynulliad neu mewn cysylltiad ag ef;
(b) mae “etholaeth y Cynulliad” (“Assembly constituency”) i'w ddehongli yn unol ag adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
(c) mae “rhanbarth etholaethol y Cynulliad” (“Assembly electoral region”) i'w ddehongli yn unol ag adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
(ch) ystyr “Gorchymyn 2007” (“the 2007 Order”) yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007;
(d) mae “y Prif Swyddog Cyfrifyddu” (“the Principal Accounting Officer”) i'w ddehongli yn unol ag adran 129(6) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Cyflwyno cyfrifon i Weinidogion Cymru
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid cyflwyno cyfrif o fewn y cyfnod o wyth mis sy'n dechrau ar ddiwrnod yr etholiad Cynulliad y mae'r cyfrif yn berthnasol iddo.
(2) Ceir cyflwyno cyfrif mewn perthynas â rhai o'r taliadau y mae gan swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol yr hawl i'w hadennill (“cyfrif anghyflawn”); ond pan fo cyfrif pellach yn debygol o gael ei gyflwyno, rhaid i'r cyfrif anghyflawn gynnwys datganiad i'r perwyl hwn.
(3) Rhaid i'r datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) gynnwys y rheswm dros gyflwyno cyfrif anghyflawn, a'r dyddiad arfaethedig, sydd wedi ei gytuno gyda'r Prif Swyddog Cyfrifyddu, erbyn pryd y bydd y cyfrifon cyflawn yn cael eu cyflwyno.
(4) Rhaid cyflwyno'r canlynol wrth gyflwyno cyfrif—
(a) derbynneb mewn perthynas â phob tâl am draul yr aethpwyd iddi gan y swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol y mae'r cyfrif yn berthnasol iddo; a
(b) tystysgrif, wedi ei llofnodi gan y swyddog canlyniadau hwnnw, yn y termau a ganlyn—
(i) yn Saesneg—“
 I declare that this account submitted for the purposes of the payment of charges in respect of services necessarily rendered and expenses necessarily incurred for the efficient and effective conduct of this election in the area for which I am responsible is correct to the best of my knowledge and belief.”; neu
(ii) yn Gymraeg—“
 Yr wyf yn datgan bod y cyfrif hwn, a gyflwynir at ddibenion talu costau yng nghyswllt gwasanaethau a roddwyd o angenrheidrwydd a threuliau yr aethpwyd iddynt o angenrheidrwydd er mwyn cynnal yr etholiad hwn yn effeithlon ac yn effeithiol yn yr ardal yr wyf yn gyfrifol amdani, yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth a'm cred.”.
Ffurf y cyfrifon
4 

(1) Rhaid cyflwyno cyfrif ar y fath ffurf fel bod y costau mewn perthynas â phob eitem a restrir yn cael eu dangos ar wahân.
(2) Ym mharagraff (1), mae “eitem a restrir” (“listed item”) yn cyfeirio at fath o wasanaeth a roddwyd, neu fath o draul yr aethpwyd iddi, gan swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol ar gyfer yr etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru y mae'r cyfrif yn berthnasol iddo, neu mewn cysylltiad â'r etholiad hwnnw.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
2 Mawrth 2011