
2011 Rhif 659 (Cy.97)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Coleg Caerdydd a'r Fro (Corffori) 2011
Gwnaed 7 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Mawrth 2011
Yn dod i rym 8 Ebrill 2011

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 16(1)(a) ac 17 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 sy'n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi drafft a chrynodeb o'r Gorchymyn hwn yn unol ag adran 51(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 a Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Teitl y Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Caerdydd a'r Fro (Corffori) 2011 a daw i rym ar 8 Ebrill 2011.
Corfforaeth Newydd
2 
Ar 8 Ebrill 2011 sefydlir corff corfforaethol o'r enw Coleg Caerdydd a'r Fro, at ddibenion sefydlu a rhedeg, o'r dyddiad gweithredu ymlaen, sefydliad addysgol newydd o'r un enw.
Dyddiad gweithredu
3 
Y dyddiad gweithredu a bennwyd mewn perthynas â Choleg Caerdydd a'r Fro yw 1 Awst 2011, a bydd y gorfforaeth yn rhedeg y sefydliad addysgol Coleg Caerdydd a'r Fro o'r dyddiad hwnnw ymlaen.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2011