
2011Rhif 656 (Cy.94) 
ARBED YNNI, CYMRU
Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011
Gwnaed 6 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Mawrth 2011
Yn dod i rym 1 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae “annedd” (“dwelling”) yn cynnwys unrhyw adeilad mewn amlfeddiannaeth; ac at y diben hwn ystyr “adeilad mewn amlfeddiannaeth” yw adeilad a feddiennir gan bersonau nad ydynt yn ffurfio un aelwyd, gan eithrio unrhyw ran o'r adeilad a feddiennir, fel annedd ar wahân gan bersonau sy'n ffurfio un aelwyd;
 ystyr “asiantaeth ardal” (“area agency”), ac eithrio ym mharagraff (1) o reoliad 4, yw'r person neu'r corff o bersonau a benodwyd am y tro ac sy'n gyfrifol am yr ardal dan sylw o dan y Rheoliad hwnnw;
 ystyr “budd-daliad sy'n dibynnu ar prawf modd” (“means-tested benefit”) yw—
(a) cymhorthdal incwm, budd-dal tai, a budd-dal treth gyngor (pob un fel y diffinnir yn ôl eu trefn “income support”, “housing benefit” a “council tax benefit” yn Rhan VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992);
(b) lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm (fel y diffinnir yr ymadrodd cyfatebol “income-based jobseeker’s allowance” yn Neddf Ceiswyr Gwaith 1995);
(c) credyd pensiwn gwladol (fel y diffinnir yr ymadrodd cyfatebol “state pension credit” yn Neddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002);
(ch) credyd treth gwaith a chredyd treth plant (y ddau fel y diffinnir yr ymadroddion cyfatebol “working tax credit” a “child tax credit” yn Neddf Credydau Treth 2002) cyn belled ag nad yw incwm y ceisydd yn y naill achos na'r llall yn uwch na'r trothwy incwm perthnasol; a
(d) lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm (fel y diffinnir yr ymadrodd cyfatebol “income-related employment and support allowance” yn Neddf Diwygio Lles 2007);
 ystyr “cais am grant rhannol” (“partial grant application”) yw cais am weithfeydd sy'n gyfyngedig i'r dibenion a nodir yn Rheoliad 6(1)(a) a (b);
 ystyr “cais am gyngor” (“advice application”) yw cais am grant mewn perthynas â chyngor a hwnnw'n gais y mae'r ceisydd yn cynnig ynddo y bydd asiantaeth ardal yn trefnu i roi cyngor;
 ystyr “cais gweithfeydd” (“works application”) yw cais lle y mae'r ceisydd yn cynnig y bydd asiantaeth ardal yn trefnu i gyflawni'r gweithfeydd y ceisir grant amdanynt;
 mae i “dosbarthiad ased” (“asset rating”) yr ystyr a roddir i “asset rating” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Tystysgrifau ac Arolygiadau) (Cymru a Lloegr) 2007;
 ystyr “cyngor” (“advice”) yw cyngor ar leihau neu atal gwastraff ynni mewn anheddau y mae unrhyw weithfeydd yn cael eu gwneud neu eu hystyried mewn cysylltiad â hwy;
 ystyr “gweithfeydd” (“works”) yw gwaith sy'n cwympo o fewn y mathau o waith a bennir gan neu (yn ôl y digwydd) yn unol â Rheoliad 6;
 ystyr “meddiannaeth breifat” (“private occupancy”) yw meddiannaeth ar annedd sy'n golygu nad oes yr un o'r meddianwyr yn meddiannu'r annedd honno fel tenant neu drwyddedai cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol na landlord cymdeithasol cofrestredig (gan gynnwys o dan drefniadau ecwiti a rennir);
 ystyr “meddiannydd” (“occupant”) yw person sy'n meddiannu annedd yn gyfreithlon fel ei unig neu brif breswylfa ac sy'n bwriadu parhau i feddiannu'r annedd dros y tymor hir;
 ystyr “meini prawf cymhwystra” (“eligibility criteria”) yw'r meini prawf y penderfynir arnynt am y tro gan neu (yn ôl y digwydd) yn unol â Rheoliad 5;
 ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2007;
 ystyr “Rheoliadau Diwygio 2010” (“the 2010 Amendment Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2010;
 ystyr “trothwy incwm” (“income threshold”) yw'r trothwy incwm y penderfynir arno o bryd i'w gilydd yn unol ag Adran 7(1)(a) o Ddeddf Credydau Treth 2002.
Dirymu a darpariaethau trosiannol
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae—
(a) Rheoliadau 2007; a
(b) Rheoliadau Diwygio 2010
wedi eu dirymu.
(2) Os yw person wedi gwneud cais am grant o dan Reoliadau 2007 (fel y'u diwygiwyd) ond nad yw'r cais wedi ei gymeradwyo na'i wrthod cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, neu os yw'r cais wedi ei gymeradwyo ond nad oes dim o'r gweithfeydd wedi dechrau, bydd y cais yn cael ei drin megis petai wedi ei wneud o dan y Rheoliadau hyn.
Pwerau Gweinidogion Cymru
4 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru benodi person, neu fwy nag un person, ac mae pob person o'r fath i'w adwaen wrth yr enw asiantaeth ardal, i gyflawni unrhyw swyddogaethau mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ardal yng Nghymru y bydd Gweinidogion Cymru yn eu rhoi drwy gyfrwng contract i'r person hwnnw neu'r personau hynny er mwyn, neu mewn modd arall yn gysylltiedig â, rhoi cyngor, gwneud neu weinyddu grantiau o dan y Rheoliadau hyn a threfnu i gyflawni'r gweithfeydd.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu penodiad o dan baragraff (1).
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ddyrannu symiau i'r asiantaeth ardal sydd i fod ar gael i'r asiantaeth honno mewn unrhyw gyfnod at y diben o wneud grantiau o dan y Rheoliadau hyn yn y cyfnod hwnnw, ac ar gyfer ailddyrannu'r symiau a ddyranwyd yn y modd hwnnw.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru wedi gwneud cytundeb gyda pherson ac eithrio'r ceisydd, i gyllido gweithfeydd y mae grant yn daladwy amdanynt, caniateir iddynt dalu'r cyfan neu ran o unrhyw grant i'r person arall hwnnw.
Meini prawf cymhwystra
5 

(1) Ceir rhoi sylw i gais am gyngor oddi wrth berson sy'n feddiannydd ar yr annedd y gwneir y cais ar ei gyfer.
(2) Ceir rhoi sylw i gais gweithfeydd mewn perthynas ag annedd—
(a) os yw'r annedd mewn meddiannaeth breifat;
(b) os yw'r ceisydd yn feddiannydd ar yr annedd ac os yw'n derbyn budd-daliad sy'n dibynnu ar brawf modd; ac
(c) os yw'r asiantaeth ardal wedi ei bodloni bod dosbarthiad ased yr annedd yn 38 neu lai.
(3) Ceir rhoi sylw i gais am grant rhannol mewn perthynas ag annedd sydd mewn meddiannaeth breifat oddi wrth feddiannydd ar yr annedd—
(a) sydd yn 60 oed neu drosodd;
(b) sydd yn anabl neu â gwaeledd cronig;
(c) sydd yn feichiog; neu
(ch) sydd yn meddiannu'r annedd gyda phlentyn neu berson ifanc o dan 25 oed.
(4) Caiff yr asiantaeth ardal addasu'r meini prawf cymhwystra, gosod meini prawf newydd yn lle'r hen rai gwreiddiol neu ychwanegu atynt gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
Y dibenion y caniateir cymeradwyo grant ar eu cyfer
6 

(1) Caniateir cymeradwyo cais am grant os yw'n ymwneud ag un neu fwy o'r dibenion a ganlyn—
(a) darparu inswleiddiad mewn unrhyw wagle to hygyrch yn yr annedd, gan gynnwys inswleiddio unrhyw danc dŵr oer ac unrhyw bibell ddŵr mewn gwagle o'r fath;
(b) darparu inswleiddiad rhwng dalennau mewnol ac allanol waliau dwbl yr annedd, ac i unrhyw wal solet;
(c) darparu defnydd gwrth-ddrafft i'r annedd neu ynddi ynghyd ag unrhyw gyfrwng awyru ychwanegol ar gyfer unrhyw ystafelloedd na fyddent fel arall yn cael eu hawyru'n ddigonol ar ôl darpariaeth o'r fath;
(ch) darparu inswleiddiad i unrhyw system gwresogi dŵr neu i unrhyw bibellau dŵr poeth hygyrch sy'n gysylltiedig â'r system wresogi;
(d) darparu gwresogyddion ystafell sy'n wresogyddion darfudol nwy â rheolaeth thermostat;
(dd) darparu stôr-wresogyddion trydan;
(e) darparu naill ai dwymwr tanddwr ac iddo ddwy elfen ynghyd â thanc wedi ei inswleiddio yn y ffatri neu dwymwr tanddwr trydan o fewn silindr dŵr poeth presennol;
(f) darparu rheolyddion amser ar gyfer gwresogyddion aer a thwymwyr dŵr sy'n rhai trydan;
(ff) gwella effeithlonrwydd ynni unrhyw system gwresogi aer neu dwymo dŵr sydd wedi ei gosod yn yr annedd neu roi rhan newydd yn lle hen ran o'r system neu ei thrwsio (gan gynnwys gosod boeler newydd a gwneud unrhyw welliannau i'r system bresennol o wresogi aer neu dwymo dŵr sy'n hwyluso ei osod);
(g) darparu system gwres canolog â thanwydd o unrhyw fath (gan gynnwys systemau sy'n cynhyrchu trydan);
(ng) troi tanau ystafelloedd sy'n danau tanwydd solet agored yn danau ystafelloedd sy'n rhai tanwydd solet caeedig;
(h) darparu system gwres canolog â thanwydd o unrhyw fath sydd wedi ei chysylltu â grid gwresogi y gymuned leol;
(i) darparu systemau gwresogi aer neu dwymo dŵr (gan gynnwys pympiau gwres) sy'n defnyddio ynni o ffynonellau adnewyddadwy; ac at y dibenion hyn—“
 ystyr “ffynonellau adnewyddadwy” (“renewable sources”) yw ffynonellau ynni ac eithrio mawn, tanwydd ffosil neu danwydd niwclear; ac
 ystyr “tanwydd ffosil” (“fossil fuel) yw glo, sylweddau a gynhyrchir yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o lo, coedlo, nwy naturiol, hylif petroliwm crai, neu gynhyrchion petroliwm (ac mae i “nwy naturiol” a “cynhyrchion petroliwm” yr un ystyr ag a roddir i “natural gas” a “petroleum products” yn Neddf Ynni 1976;”
(j) darparu mesurau i arbed dŵr;
(l) darparu unrhyw weithfeydd cyffelyb i'r rheini a restrir yn Rheoliad 6(1), neu weithfeydd sy'n angenrheidiol ar eu cyfer neu sy'n ategol iddynt neu'n gysylltiedig â gwneud gweithfeydd o'r fath; ac
(ll) darparu unrhyw weithfeydd ychwanegol a bennir gan yr asiantaeth ardal gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
(2) Nid oes unrhyw gais i gael ei gymeradwyo onid yw'r annedd a thestun pob categori o weithfeydd a grybwyllir yn y cais yn bodloni unrhyw amodau a bennir o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
(3) Mae'n rhaid i'r holl weithfeydd gydymffurfio ag unrhyw safonau a bennir gan yr asiantaeth ardal o bryd i'w gilydd gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru parthed deunyddiau, crefftwaith a pherfformiad testun y gwaith o ran effeithlonrwydd ynni.
(4) At ddibenion y Rheoliad hwn, ystyr “gwagle to” (“roof space”) yw'r gwagle rhwng to annedd a nenfwd unrhyw ystafell a ddefnyddir at ddibenion lle i fyw, neu sydd ar gael i'w ddefnyddio at y diben hwnnw, pan nad yw'r gwagle hwnnw wedi ei wahanu'n gyfan gwbl o'r to gan unrhyw ystafell arall.
Uchafswm y grant
7 

(1) Ni chaiff asiantaeth ardal dalu cyfanswm grant mewn cysylltiad â chais gweithfeydd o dan y Rheoliadau hyn sy'n fwy na'r isaf o'r canlynol—
(a) y swm a godir yn briodol am y gweithfeydd a wneir; neu
(b) uchafswm y grant fel y penderfynir arno o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru yn unol â'r canlynol—
(i) cost gwaith a/neu argaeledd gweithfeydd a deunyddiau o'r mathau sy'n ofynnol gan y dibenion a bennir yn rheoliad 6 neu mewn cysylltiad â hwy; a
(ii) polisi a blaenoriaethau cyfredol Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag arbed ynni.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar uchafsymiau gwahanol o dan baragraff (1)—
(a) ar gyfer grantiau mewn cysylltiad ag anheddau amlfeddiannaeth;
(b) gan gyfeirio at unrhyw gategori neu gyfuniad o gategorïau o weithfeydd a bennir gan neu (yn ôl y digwydd) yn unol â Rheoliad 6; ac
(c) gan gyfeirio at a yw'r cais gweithfeydd yn gais am grant rhannol.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (2) o'r Rheoliad hwn, caiff asiantaeth ardal, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, bennu—
(a) uchafswm y grant y caniateir ei dalu; a
(b) sail cyfrifo grant, wedi ei mynegi yn nhermau symiau fesul uned fesur,
ar gyfer unrhyw gategori neu gyfuniad o gategorïau o weithfeydd a bennir gan neu (yn ôl y digwydd) yn unol â Rheoliad 6.
Ceisiadau am grant
8 

(1) Mae cais am grant i'w wneud i'r asiantaeth ardal dros yr ardal y mae'r annedd wedi ei lleoli ynddi.
(2) Mae'n rhaid i gais fod yn ysgrifenedig, wedi ei lofnodi naill ai gan y ceisydd neu gan berson a bennir gan yr asiantaeth ardal neu berson o ddisgrifiad a bennir ganddi a rhaid iddo fod ar unrhyw ffurf, yn ddarostyngedig i baragraff (3) o'r Rheoliad hwn, a osodir gan yr asiantaeth ardal.
(3) Mae'n rhaid i'r cais gynnwys—
(a) manylion am yr annedd y ceisir grant mewn cysylltiad â hi ac os nad y ceisydd yw perchennog y rhydd-ddaliad, enw a chyfeiriad perchennog y rhydd-ddaliad neu'r landlord;
(b) gwybodaeth am y ceisydd sy'n ddigonol i'r asiantaeth ardal benderfynu a yw'r ceisydd yn bodloni'r meini prawf cymhwystra;
(c) datganiad yn dweud y rhoddir mynediad rhesymol i'r annedd y gwneir y cais mewn cysylltiad â hi i gynrychiolydd o'r asiantaeth ardal i arolygu'r annedd ac i wneud y gwaith;
(ch) datganiad yn dweud a yw'r ceisydd, neu unrhyw berson arall, hyd y gŵyr y ceisydd, wedi gwneud cais am grant neu gymorth o dan y Rheoliadau hyn neu o dan unrhyw ddeddfwriaeth neu gynllun arall mewn cysylltiad â'r annedd sy'n destun y cais; a
(d) unrhyw wybodaeth bellach a bennir gan yr asiantaeth ardal o bryd i'w gilydd gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
Amodau grant
9 

(1) Wrth wneud unrhyw grant—
(a) rhaid i'r asiantaeth ardal osod amodau sy'n ymwneud ag unrhyw un neu rai o'r materion a ganlyn (yn ddarostyngedig i unrhyw addasiad a wneir yn unol â pharagraff (b) o'r Rheoliad hwn) y bydd yr asiantaeth ardal yn eu hystyried yn berthnasol i amgylchiadau'r grant—
(i) o dan ba amgylchiadau y caniateir i unrhyw grant neu ran o grant a wneir o dan y Rheoliadau hyn ddod yn ad-daladwy gan y person y gwnaed y grant mewn cysylltiad â'i gais;
(ii) y moddion ar gyfer sicrhau bod unrhyw symiau sy'n dod yn ad-daladwy o dan baragraff (2)(a) o'r Rheoliad hwn yn cael eu had-dalu, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) ei gwneud yn ofynnol i geisydd neu berchennog annedd roi arwystl neu sicrydyn arall dros yr annedd;
(iii) (pan fo'r ceisydd yn denant) cael cytundeb y landlord i beidio â chodi'r rhent am gyfnod penodedig (ac eithrio i gyd-fynd â chwyddiant), neu i beidio ag ystyried y gwaith a wnaed yn unol â grant a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn wrth gynnal unrhyw adolygiad rhent; a
(b) caiff yr asiantaeth ardal osod unrhyw amodau mewn perthynas ag unrhyw faterion pellach, ychwanegol neu rai a addaswyd y bydd yr asiantaeth ardal yn eu pennu gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
(2) Os caiff penodiad asiantaeth ardal ei derfynu, rhaid i'r amodau a osodir ar roi unrhyw grant gan Weinidogion Cymru fod yn unol â pharagraff (1) o'r rheoliad hwn fel yr oedd yn gymwys i'r asiantaeth ardal yn union cyn terfynu ei phenodiad.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2011