
2011 Rhif 655 (Cy.93)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 5 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Mawrth 2011
Yn dod i rym 31 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (f), 17(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2011.
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009 yn unol â pharagraff (2).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—
(a) ar ddiwedd y diffiniad o “Cyfarwyddeb 08/60” ychwaneger yr ymadrodd “fel y'i diwygir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/37/EU sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/60 sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer melysyddion”; a
(b) ar ddiwedd y diffiniad o “Cyfarwyddeb 08/84” ychwaneger yr ymadrodd “fel y'i diwygir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/67/EU sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/84 sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2011