
2011 Rhif 632 (Cy.92)
CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, CYMRU
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2011
Gwnaed 2 Mawrth 2011
Yn dod i rym 25 Mawrth 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 23 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 ac a freinir bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn canlynol—
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2011.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 25 Mawrth 2011.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
(a) mae'r term “etholaeth Cynulliad” (“Assembly constituency”) i'w ddehongli yn unol ag adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
(b) mae'r term “rhanbarth etholiadol Cynulliad” (“Assembly electoral region”) i'w ddehongli yn unol ag adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Dirymu
3 
Dirymir Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2006.
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy
4 
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy ar gyfer etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen yw'r swm a restrir yng ngholofn 4 o'r tabl yn Atodlen 1.
Y cyfanswm mwyaf sy'n adenilladwy am wasanaethau mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen
5 

(1) Rhaid i gyfanswm y taliadau y caiff swyddog canlyniadau eu hadennill mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen, mewn perthynas â'r gwasanaethau o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff (2), beidio â bod yn fwy na'r swm a restrir ar gyfer pob etholaeth Cynulliad yng ngholofn 2 o'r tabl yn Atodlen 1.
(2) Y gwasanaethau yw—
(a) gwneud trefniadau ar gyfer yr etholiad;
(b) cynnal yr etholiad;
(c) cyflawni holl ddyletswyddau swyddog canlyniadau mewn perthynas â'r etholiad.
Y cyfanswm mwyaf sy'n adenilladwy am dreuliau mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen
6 

(1) Rhaid i gyfanswm y taliadau y caiff swyddog canlyniadau eu hadennill mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen, mewn perthynas â'r treuliau o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff (2), beidio â bod yn fwy na'r swm a restrir ar gyfer pob etholaeth Cynulliad yng ngholofn 3 o'r tabl yn Atodlen 1.
(2) Y treuliau yw—
(a) penodi a thalu ffioedd i bersonau sy'n cynorthwyo'r swyddog canlyniadau;
(b) ad-dalu treuliau teithio a chynhaliaeth a dynnir gan unrhyw berson a benodir i gynorthwyo'r swyddog canlyniadau a chan y swyddog canlyniadau;
(c) argraffu neu gynhyrchu papurau pleidleisio;
(ch) argraffu a dosbarthu papurau pleidleisio drwy'r post;
(d) argraffu a dosbarthu cardiau pleidleisio;
(dd) argraffu a chyhoeddi'r holl hysbysiadau a dogfennau etholiad;
(e) rhentu ac addasu mangreoedd i'w defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio neu ganolfannau cyfrif, gan gynnwys gwresogi, goleuo, glanhau, ac adfer yr adeilad neu'r ystafell i'r cyflwr gwreiddiol;
(f) darparu a chludo'r holl gyfarpar angenrheidiol ar gyfer cynnal yr etholiad a'r cyfrif;
(ff) darparu'r holl gyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a meddalwedd, a chostau cysylltiedig;
(g) darparu diogelwch a storio dogfennau etholiadol yn ddiogel yn ystod cyfnod yr etholiad;
(ng) cynnal y gwirio a'r cyfrif;
(h) darparu a chael hyfforddiant;
(i) costau eitemau amrywiol, na roddir cyfrif amdanynt mewn man arall, megis deunyddiau ysgrifennu, postio, ffonio, argraffu a chyfieithu.
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy
7 
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy ar gyfer etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen yw'r swm a restrir yng ngholofn 4 o'r tabl yn Atodlen 2.
Y cyfanswm mwyaf sy'n adenilladwy am wasanaethau mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen
8 

(1) Rhaid i gyfanswm y taliadau y caiff swyddog canlyniadau rhanbarthol eu hadennill mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen, mewn perthynas â'r gwasanaethau o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff (2), beidio â bod yn fwy na'r swm a restrir ar gyfer pob rhanbarth etholiadol Cynulliad yng ngholofn 2 o'r tabl yn Atodlen 2.
(2) Y gwasanaethau yw—
(a) gwneud trefniadau ar gyfer yr etholiad;
(b) cynnal yr etholiad;
(c) cyflawni holl ddyletswyddau swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn perthynas â'r etholiad.
Y cyfanswm mwyaf sy'n adenilladwy am dreuliau mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen
9 

(1) Rhaid i gyfanswm y taliadau y caiff swyddog canlyniadau rhanbarthol eu hadennill mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen, mewn perthynas â'r treuliau o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff (2), beidio â bod yn fwy na'r swm a restrir ar gyfer pob rhanbarth etholiadol Cynulliad yng ngholofn 3 o'r tabl yn Atodlen 2.
(2) Y treuliau yw—
(a) penodi a thalu ffioedd i bersonau sy'n cynorthwyo'r swyddog canlyniadau rhanbarthol;
(b) ad-dalu treuliau teithio a chynhaliaeth a dynnir gan unrhyw berson a benodir i gynorthwyo'r swyddog canlyniadau rhanbarthol a chan y swyddog canlyniadau rhanbarthol;
(c) argraffu a chyhoeddi hysbysiadau;
(ch) paratoi'r papur pleidleisio;
(d) costau eitemau amrywiol, na roddir cyfrif amdanynt mewn man arall, megis deunyddiau ysgrifennu, postio, ffonio, argraffu a chyfieithu.
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy mewn etholiad etholaeth Cynulliad nas ymleddir
10 
Mewn etholiad etholaeth Cynulliad nas ymleddir—
(a) nid yw erthyglau 4 i 6 yn gymwys; a
(b) y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy am wasanaethau a threuliau yw £1,750 (un fil a saith gant a hanner o bunnoedd) am bob etholaeth.
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad nas ymleddir
11 
Mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad nas ymleddir—
(a) nid yw erthyglau 7 i 9 yn gymwys; a
(b) y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy am wasanaethau a threuliau yw £350 (tri chant a hanner o bunnoedd) am bob rhanbarth.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
2 Mawrth 2011
ATODLEN 1
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy a'r cyfansymiau mwyaf am wasanaethau ac am dreuliau sy'n adenilladwy mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen
Erthyglau 4, 5(1) a 6(1)



1. 2. 3. 4.
Etholaeth Cyfanswm adenilladwy mwyaf am wasanaethau Cyfanswm adenilladwy mwyaf am dreuliau Cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy
Aberafan £4,730 £111,450 £116,180
Aberconwy £4,730 £80,770 £85,500
Alun a Glannau Dyfrdwy £4,730 £100,882 £105,612
Arfon £4,730 £78,161 £82,891
Blaenau Gwent £4,730 £117,304 £122,034
Bro Morgannwg £4,730 £141,432 £146,162
Brycheiniog a Sir Faesyfed £4,730 £123,355 £128,085
Caerffili £4,730 £120,434 £125,164
Canol Caerdydd £4,730 £105,346 £110,076
Castell-nedd £4,730 £127,310 £132,040
Ceredigion £4,730 £111,403 £116,133
Cwm Cynon £4,730 £96,461 £101,191
De Caerdydd a Phenarth £4,730 £142,449 £147,179
De Clwyd £4,730 £107,326 £112,056
Delyn £4,730 £99,322 £104,052
Dwyfor Meirionnydd £4,730 £103,062 £107,792
Dwyrain Abertawe £4,730 £109,283 £114,013
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr £4,730 £127,031 £131,761
Dwyrain Casnewydd £4,730 £97,526 £102,256
Dyffryn Clwyd £4,730 £96,950 £101,680
Gogledd Caerdydd £4,730 £130,778 £135,508
Gorllewin Abertawe £4,730 £106,528 £111,258
Gorllewin Caerdydd £4,730 £120,979 £125,709
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro £4,730 £119,374 £124,104
Gorllewin Casnewydd £4,730 £114,489 £119,219
Gorllewin Clwyd £4,730 £106,530 £111,260
Gŵyr £4,730 £115,670 £120,400
Islwyn £4,730 £104,722 £109,452
Llanelli £4,730 £121,633 £126,363
Merthyr Tudful a Rhymni £4,730 £110,152 £114,882
Mynwy £4,730 £133,869 £138,599
Ogwr £4,730 £100,682 £105,412
Pen-y-bont ar Ogwr £4,730 £107,565 £112,295
Pontypridd £4,730 £113,447 £118,177
Preseli Sir Benfro £4,730 £118,180 £122,910
Rhondda £4,730 £106,265 £110,995
Sir Drefaldwyn £4,730 £95,718 £100,448
Tor-faen £4,730 £125,634 £130,364
Wrecsam £4,730 £88,047 £92,777
Ynys Môn £4,730 £101,833 £106,563
Cyfanswm £189,200 £4,439,349 £4,628,549

ATODLEN 2
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy a'r cyfansymiau mwyaf am wasanaethau ac am dreuliau sy'n adenilladwy mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen
Erthyglau 7, 8(1) a 9(1)



1. 2. 3. 4.
Rhanbarth Etholiadol y Cynulliad Cyfanswm adenilladwy mwyaf am wasanaethau Cyfanswm adenilladwy mwyaf am dreuliau Cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy
Canol De Cymru £2,860.00 £14,000.00 £16,860.00
Canolbarth a Gorllewin Cymru £2,860.00 £14,000.00 £16,860.00
Dwyrain De Cymru £2,860.00 £14,000.00 £16,860.00
Gogledd Cymru £2,860.00 £14,000.00 £16,860.00
Gorllewin De Cymru £2,860.00 £14,000.00 £16,860.00
Cyfanswm £14,300.00 £70,000.00 £84,300.00
