
2011 Rhif 629 (Cy.91)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwyd (Jeli Cwpanau Bach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2011
Gwnaed 2 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Mawrth 2011
Yn dod i rym 31 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diodydd).

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Jeli Cwpanau Bach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2011 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2011.
Dirymu
2 

(1) Dirymir Rheoliadau Bwyd (Jeli Cwpanau Bach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2009.
(2) Dirymir Rheoliadau Bwyd (Jeli Cwpanau Bach) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygio) 2010.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
2 Mawrth 2011