
2011 Rhif 626 (Cy.90)
AMAETHYDDIAETH, CYMRUBWYD, CYMRU
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 2 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Mawrth 2011
Yn dod i rym 1 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Dynodwyd Gweinidogion Cymru at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid sy'n cael ei gynhyrchu neu ei fwydo i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd, polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd a mesurau ym meysydd milfeddygol a ffytoiechydol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, bu ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd wrth baratoi a gwerthuso'r Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2011.
Diwygio'r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009
2 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio yn unol â'r paragraff a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 12 (yr hawl i apelio), hepgorer paragraffau (5) i (7).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
2 Mawrth 2011