
2011 Rhif 558 (Cy. 80)
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2011
Gwnaed 21 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Mawrth 2011
Yn dod i rym 1 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 8(1) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ofynnol arnynt, gan adran 8(3) o'r Mesur hwnnw, i ymgynghori â hwy, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cychwyn, a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau tân ac achub yng Nghymru, a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.
Dangosyddion perfformiad
2 
Mae'r dangosyddion perfformiad y bydd perfformiad pob awdurdod tân ac achub yng Nghymru'n cael ei fesur yn eu herbyn wrth iddo ymarfer ei swyddogaethau yn cael eu pennu drwy hyn yn yr Atodlen.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
21 Chwefror 2011
YR ATODLEN
Lleihau Risg a Diogelwch Cymunedol
Erthygl 2



Cyfeirnod Dangosydd
FRS/RRC/S/001 
(i) Cyfanswm y tanau yr aethpwyd atynt, fesul 10,000 o'r boblogaeth;
(ii) Cyfanswm y prif danau yr aethpwyd atynt, fesul 10,000 o'r boblogaeth;
(iii) Cyfanswm y tanau yr aethpwyd atynt a oedd wedi eu cynnau drwy ddamwain mewn anheddau, fesul 10,000 o anheddau;
(iv) Cyfanswm y tanau yr aethpwyd atynt a oedd wedi eu cynnau'n fwriadol, fesul 10,000 o'r boblogaeth.
FRS/RRC/S/002 Nifer y:
(i) Marwolaethau a achoswyd gan danau, fesul 100,000 o'r boblogaeth;
(ii) Marwolaethau a achoswyd gan danau a oedd wedi eu cynnau drwy ddamwain, fesul 100,000 o'r boblogaeth;
(iii) Marwolaethau a achoswyd gan danau a oedd wedi eu cynnau'n fwriadol, fesul 100,000 o'r boblogaeth;
(iv) Anafiadau (ac eithrio archwiliadau rhagofalus) a ddeilliodd o danau, fesul 100,000 o'r boblogaeth;
(v) Anafiadau (ac eithrio archwiliadau rhagofalus) a ddeilliodd o danau a oedd wedi eu cynnau drwy ddamwain, fesul 100,000 o'r boblogaeth;
(vi) Anafiadau (ac eithrio archwiliadau rhagofalus) a ddeilliodd o danau a oedd wedi eu cynnau'n fwriadol, fesul 100,000 o'r boblogaeth.
FRS/RRC/S/003 Cyfanswm y tanau mewn mangreoedd annomestig, fesul 1,000 o fangreoedd annomestig.
