
2011 Rhif 557 (Cy.79)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRULLYGRU MOROL, CYMRU
Rheoliadau Trwyddedu Morol (Cofrestr o Wybodaeth Trwyddedu) (Cymru) 2011
Gwnaed 25 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Mawrth 2011
Yn dod i rym 6 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 101(2) a (3) a 316(1) o'r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Cofrestr o Wybodaeth Trwyddedu) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2011.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “yr awdurdod trwyddedu” (“the licensing authority”) yw Gweinidogion Cymru, yn gweithredu yn eu swyddogaeth fel awdurdod trwyddedu priodol yn yr ystyr a roddir i “appropriate licensing authority” o dan adran 113 o'r Ddeddf ;
 ystyr “cais” (“application”) yw cais am drwydded, ond nid yw'n cynnwys cais am drwydded a gyflwynwyd ac a dynnwyd yn ôl yn ddiweddarach;
 ystyr “cyfesurynnau” (“co-ordinates”) yw—
(a) cyfesurynnau lledred a hydred yn System Geodetig Fyd-eang 1984; neu
(b) cyfesurynnau yn y Grid Cenedlaethol a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009;
 ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw'r gofrestr o wybodaeth trwyddedu a gynhelir o dan adran 101 o'r Ddeddf gan Weinidogion Cymru fel yr awdurdod trwyddedu priodol;
 ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded forol.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at eitem benodol â rhif yn gyfeiriad at yr eitem â'r rhif hwnnw yn adran 66(1) o'r Ddeddf (sy'n pennu gweithgareddau morol trwyddedadwy).
Cymhwyso
3 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113 o'r Ddeddf.
Y gofrestr a gwybodaeth ragnodedig
4 

(1) Ceir cadw'r gofrestr mewn unrhyw ffurf.
(2) Rhaid i'r gofrestr gynnwys y manylion a ragnodir yn y Rheoliadau hyn.
(3) Mae rheoliad 5 yn rhagnodi manylion mewn perthynas â phob cais a thrwydded.
(4) Mae rheoliadau 6 i 12 yn rhagnodi manylion ychwanegol mewn perthynas â mathau penodol o geisiadau a thrwyddedau.
(5) Mae rheoliadau 13 ac 14 yn rhagnodi manylion mewn perthynas ag amrywiadau, dirymiadau, ataliadau dros dro a throsglwyddiadau trwyddedau.
(6) Mae rheoliadau 15 i 17 yn rhagnodi manylion mewn perthynas â chollfarnau, camau gorfodi eraill a chamau unioni.
(7) Rhaid i'r awdurdod trwyddedu gynnwys yn y gofrestr y manylion a ragnodir gan reoliadau 5 i 14 cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael neu creu'r wybodaeth dan sylw.
Manylion cyffredinol ar gyfer ceisiadau a thrwyddedau
5 
Y manylion mewn perthynas â phob cais a thrwydded yw—
(a) y dyddiad y gwnaed y cais;
(b) rhif cyfeirnod y cais neu rif y drwydded a ddyroddwyd gan yr awdurdod trwyddedu;
(c) rhif cyfeirnod cais neu rif trwydded unrhyw gais neu drwydded arall, a ystyrir gan yr awdurdod trwyddedu yn berthynol i'r cais neu'r drwydded dan sylw;
(ch) enw a chyfeiriad y ceisydd neu'r deiliad trwydded;
(d) enw a chyfeiriad unrhyw asiant, contractwr neu is-gontractwr y bwriedir iddo gymryd rhan yn y gweithgaredd y mae'r cais neu'r drwydded yn berthynol iddo;
(dd) unrhyw ardal cynllun morol y mae'r cais neu'r drwydded yn berthynol iddi;
(e) dyddiad cychwyn y drwydded a'r dyddiad y daw i ben (fel y gwnaed cais amdanynt yn achos cais neu fel y'u caniatawyd yn achos trwydded);
(ff) y dyddiad y rhoddwyd y drwydded;
(f) manylion unrhyw amodau y rhoddwyd y drwydded yn ddarostyngedig iddynt;
(g) manylion, a gyflwynwyd gyda'r cais, am unrhyw astudiaethau o effeithiau posibl y gweithgaredd sydd i'w drwyddedu, ar yr amgylchedd ac ar iechyd dynol; ac
(ng) manylion unrhyw wybodaeth a gyflenwyd, erthygl a ddangoswyd, neu ganlyniad unrhyw ymchwiliad, archwiliad neu brawf a gynhaliwyd o dan adran 67(4) o'r Ddeddf (pŵer i wneud yn ofynnol bod ceisydd yn cyflenwi gwybodaeth etc) ac unrhyw wybodaeth, erthygl neu ganlyniad o'r fath a gyflenwyd neu a ddangoswyd rywfodd arall fel rhan o'r cais.
Dyddodi sylweddau neu wrthrychau
6 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau a thrwyddedau i ymgymryd â gweithgaredd morol trwyddedadwy sy'n dod o fewn eitem 1, 2 neu 3 (dyddodi sylweddau neu wrthrychau).
(2) Y manylion ychwanegol yw—
(a) disgrifiad, cyfansoddiad a maint y sylwedd neu'r gwrthrych sydd i'w ddyddodi;
(b) enw a disgrifiad o unrhyw gerbyd, llong, awyren, adeiledd morol neu gynhwysydd arnofiol y bwriedir gwneud y dyddodiad ohono, ac yn achos unrhyw long, ei rhif cofrestru a'r wlad y'i cofrestrwyd ynddi;
(c) cyfesurynnau'r man y bwriedir gwneud y dyddodiad ynddo;
(ch) pan fo'r gweithgaredd yn dod o fewn eitem 1(c), cyfesurynnau'r adeiledd ar y tir y gwneir y dyddodiad ohono;
(d) pan fo'r gweithgaredd yn dod o fewn eitem 3, y cyfesurynnau lle y bwriedir llwytho;
(dd) yn achos dyddodi at ddibenion gwaredu, manylion unrhyw ddulliau gwaredu amgen a ystyriwyd gan y ceisydd, a'r rheswm dros ddyddodi'r sylwedd neu'r gwrthrych yn y môr.
Suddo
7 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau a thrwyddedau i ymgymryd â gweithgaredd morol trwyddedadwy sy'n dod o fewn eitem 4, 5 neu 6 (suddo llongau neu gynwysyddion arnofiol).
(2) Y manylion ychwanegol yw—
(a) y dyddiad y bwriedir suddo;
(b) enw'r llong neu'r cynhwysydd arnofiol y bwriedir ei suddo ac yn achos unrhyw long, ei rhif cofrestru a'r wlad y'i cofrestrwyd ynddi;
(c) y cyfesurynnau lle y bwriedir suddo'r llong neu'r cynhwysydd arnofiol;
(ch) disgrifiad o unrhyw lwyth yn y llong neu'r cynhwysydd arnofiol, gan gyfeirio at ei gyfansoddiad a'i faint.
Adeiladu, newid neu wella gweithiau
8 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau a thrwyddedau i ymgymryd â gweithgaredd morol trwyddedadwy sy'n dod o fewn eitem 7 (adeiladu, newid neu wella gweithiau).
(2) Y manylion ychwanegol yw—
(a) disgrifiad o'r gweithiau sydd i'w cyflawni a'r dyddiadau y cynhelir y gweithiau arnynt neu rhyngddynt;
(b) y cyfesurynnau lle y bwriedir adeiladu, newid neu wella gweithiau.
Defnyddio cerbyd etc i symud sylweddau neu wrthrychau etc oddi ar wely'r môr
9 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau a thrwyddedau i ymgymryd â gweithgaredd morol trwyddedadwy sy'n dod o fewn eitem 8 (defnyddio cerbyd, llong etc i symud sylweddau neu wrthrychau oddi ar wely'r môr).
(2) Y manylion ychwanegol yw—
(a) disgrifiad o'r sylwedd neu'r gwrthrych y bwriedir ei symud oddi ar wely'r môr;
(b) enw a disgrifiad o unrhyw gerbyd, llong, awyren, adeiledd morol neu gynhwysydd arnofiol y bwriedir ei ddefnyddio i symud y sylwedd neu'r gwrthrych oddi ar wely'r môr, ac, yn achos unrhyw long, ei rhif cofrestru a'r wlad y'i cofrestrwyd ynddi;
(c) y cyfesurynnau lle y bwriedir symud y gwrthrych neu'r sylwedd;
(ch) y rheswm dros symud y sylwedd neu'r gwrthrych oddi ar wely'r môr;
(d) manylion unrhyw ddulliau amgen o symud a ystyriwyd gan y ceisydd.
Treillio
10 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau a thrwyddedau i ymgymryd â gweithgaredd morol trwyddedadwy sy'n dod o fewn eitem 9 (treillio).
(2) Y manylion ychwanegol yw—
(a) manylion y math o dreillio y bwriedir ei wneud;
(b) y cyfesurynnau lle y bwriedir treillio;
(c) manylion am unrhyw wybodaeth a ddelir gan yr awdurdod trwyddedu ynglŷn â halogiad y deunydd y bwriedir ei dreillio.
Dyddodi neu ddefnyddio ffrwydron
11 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau a thrwyddedau i ymgymryd â gweithgaredd morol trwyddedadwy sy'n dod o fewn eitem 10 (dyddodi neu ddefnyddio sylwedd neu wrthrych ffrwydrol).
(2) Y manylion ychwanegol yw—
(a) y cyfesurynnau lle y bwriedir dyddodi neu ddefnyddio'r sylwedd neu'r gwrthrych ffrwydrol;
(b) disgrifiad, gan gynnwys y maint, o'r sylwedd neu'r gwrthrych ffrwydrol hwnnw;
(c) manylion am y rheswm dros dyddodi neu ddefnyddio'r sylwedd neu'r gwrthrych ffrwydrol hwnnw.
Llosgi neu lwytho cerbyd etc ar gyfer llosgi
12 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â cheisiadau a thrwyddedau i ymgymryd â gweithgaredd morol trwyddedadwy sy'n dod o fewn eitem 11, 12 neu 13 (llosgi sylweddau neu wrthrychau neu lwytho cerbyd, llong etc ar gyfer llosgi).
(2) Y manylion ychwanegol yw—
(a) disgrifiad o'r sylwedd neu'r gwrthrych y bwriedir ei losgi, ynghyd â'i gyfansoddiad a'i faint;
(b) enw a disgrifiad o unrhyw gerbyd, llong, awyren, adeiledd morol neu gynhwysydd arnofiol y bwriedir cyflawni'r llosgi arno, ac yn achos unrhyw long, ei rhif cofrestru a'r wlad y'i cofrestrwyd ynddi;
(c) y cyfesurynnau lle y bwriedir cyflawni'r llosgi;
(ch) pan fo'r gweithgaredd yn dod o fewn eitem 13, y cyfesurynnau lle y bwriedir llwytho;
(d) manylion unrhyw ddewisiadau amgen, yn hytrach na llosgi, a ystyriwyd gan y ceisydd, a'r rheswm dros losgi'r sylwedd neu'r gwrthrych.
Amrywio a dirymu trwyddedau, neu'u hatal dros dro
13 
Y manylion ynglŷn ag amrywio, dirymu neu atal trwydded dros dro yw—
(a) rhif y drwydded;
(b) dyddiad yr amrywiad, dirymiad neu'r ataliad dros dro;
(c) y rheswm dros yr amrywio, dirymu neu atal dros dro;
(ch) yn achos amrywiad, manylion yr amrywiad.
Trosglwyddo trwyddedau
14 
Y manylion mewn perthynas ag unrhyw drosglwyddiad trwydded yw—
(a) rhif y drwydded;
(b) enw a chyfeiriad y person y trosglwyddwyd y drwydded iddo;
(c) dyddiad y trosglwyddiad.
Collfarnau
15 

(1) Y manylion mewn perthynas ag unrhyw gollfarn am unrhyw dramgwydd o dan Ran 4 o'r Ddeddf yw—
(a) y ddarpariaeth o'r Ddeddf y collfarnwyd y person o dani;
(b) rhif y drwydded (os yw'n briodol);
(c) enw a chyfeiriad y person a gollfarnwyd;
(ch) dyddiad y tramgwydd;
(d) y rheswm dros erlyn;
(dd) y llys lle clywyd yr achos;
(e) dyddiad y gollfarn;
(f) unrhyw gosb a osodwyd gan y llys.
(2) Ym mharagraff (1) nid yw “collfarn” yn cynnwys collfarn a wrth-drowyd yn dilyn apêl.
Camau gorfodi eraill
16 

(1) Y manylion mewn perthynas ag unrhyw gamau gorfodi a gymerwyd mewn perthynas â Rhan 4 o'r Ddeddf yw—
(a) rhif y drwydded (os yw'n briodol);
(b) enw a chyfeiriad y person y cymerwyd camau gorfodi yn ei erbyn;
(c) y math o gamau gorfodi a gymerwyd;
(ch) dyddiad y tramgwydd neu weithgaredd arall y cymerwyd camau gorfodi mewn perthynas ag ef;
(d) y rheswm dros y camau gorfodi;
(dd) manylion unrhyw gosb ariannol benodedig neu gosb ariannol newidiol a osodwyd, neu unrhyw daliad a wnaed i gyflawni rwymedigaeth am gosb ariannol benodedig.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “camau gorfodi” (“enforcement action”) yw—
(a) dyroddi hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer, hysbysiad stop, hysbysiad diogelwch brys,
(b) gosod cosb ariannol sefydlog (neu ryddhau o'r rhwymedigaeth am y gosb cyn ei gosod) neu gosb ariannol newidiol o dan Orchymyn Trwyddedu Morol (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2011,
ond nid yw'n cynnwys unrhyw hysbysiad neu gosb o'r fath a wrth-drowyd gan apêl.
Camau unioni a gymerwyd gan yr awdurdod trwyddedu
17 
Y manylion mewn perthynas ag unrhyw weithiau a ymgymerwyd gan yr awdurdod trwyddedu o dan adran 106 o'r Ddeddf (pŵer i gymryd camau unioni) yw—
(a) rhif y drwydded (os yw'n briodol);
(b) dyddiad y gweithiau;
(c) y math o weithiau a ymgymerwyd;
(ch) y cyfesurynnau lle'r ymgymerwyd â'r gweithiau;
(d) y rheswm dros ymgymryd â'r gweithiau.
Jane Davidson
Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
25 Chwefror 2011