
2011 Rhif 528 (Cy.73)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Diwygio) (Cymru) 2011
Gwnaed 21 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Chwefror 2011
Yn dod i rym 1 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan—
(a) adrannau 143(2) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 3(3) o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno, a
(b) adran 113(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 1, 2, 3, 17 a 20 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno,ac a freinir bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Diwygio) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau bilio yng Nghymru.
(3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i—
(a) cais am orchymyn dyled a gychwynnwyd cyn 1 Ebrill 2011, neu
(b) cais o fath a grybwyllwyd yn y tablau a ddisodlwyd gan yr Atodlenni i'r Rheoliadau hyn ac a wneir cyn 1 Ebrill 2011.
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 12 (cais am orchymyn dyled)—
(a) ym mharagraff (6)(b), ar ôl “the order”, mewnosoder “(which costs, including those of instituting the application under paragraph (2), are not to exceed the prescribed amount of £70)”;
(b) ym mharagraff (7), ar ôl “the application”, mewnosoder “(which costs, including those of instituting the application under paragraph (2), are not to exceed the prescribed amount of £70)”.
(3) Yn lle Atodlen 4, rhodder yr atodlen sydd yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
Diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992
3 

(1) Diwygir Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 34 (cais am orchymyn dyled)—
(a) ym mharagraff (7)(b), ar ôl “the order”, mewnosoder “(which costs, including those of instituting the application under paragraph (2), are not to exceed the prescribed amount of £70)”;
(b) ym mharagraff (8), ar ôl “the application”, mewnosoder “(which costs, including those of instituting the application under paragraph (2), are not to exceed the prescribed amount of £70)”.
(3) Yn lle Atodlen 6, rhodder yr atodlen sydd yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
21 Chwefror 2011
ATODLEN 1

“
SCHEDULE 4
Costs connected with committal
Regulation 16(6A) and (6B)



Application Maximum Costs
For making an application for a warrant of commitment £305.00
For making an application for a warrant of arrest £145.00.
”

ATODLEN 2

“
SCHEDULE 6
Costs connected with committal
Regulation 47(6A) and (6B)



Application Maximum Costs
For making an application for a warrant of commitment £305.00
For making an application for a warrant of arrest £145.00.
”
