
2011 Rhif 476 (Cy.71) (C.18)
GWASTRAFF, CYMRU
Gorchymyn Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011
Wedi'i wneud 22 Chwefror 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 21(1) o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Gwastraff (Cymru) 2010.
Y diwrnod penodedig
2 
Daw adran 3 o'r Mesur i rym ar 4 Mawrth 2011.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
22 Chwefror 2011