
2011 Rhif 465 (Cy.70)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2011
Gwnaed 20 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Chwefror 2011
Yn dod i rym 17 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi a'u gwerthuso.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac maent yn dod i rym ar 17 Mawrth 2011.
Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol), yn lle paragraff (15) rhodder y canlynol—“
(15) In any proceedings for an offence under regulation 44(1)(a) it shall be a defence to prove that—
(a) 
(i) in the case of wine in which lysozyme (produced from egg) is used, or in which albumin (produced from egg) or a milk (casein) product has been used as a fining agent, the food concerned was sold before 30 June 2012 or marked or labelled before that date, or
(ii) in the case of any other food, the food concerned was sold before 31 May 2009 or marked or labelled before that date; and
(b) the matters constituting the alleged offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulation 2 of the Food Labelling (Declaration of Allergens) (Wales) Regulations 2011 had not been in operation when the food was sold.”.
Dirymu
3 
Mae Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2009 wedi eu dirymu.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
20 Chwefror 2011