
2011 Rhif 446 (Cy.67)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2011
Gwnaed 16 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18 Chwefror 2011
Yn dod i rym 28 Chwefror 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 32(9), 33(4), 43(7), 44(4) a 113(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2011, a deuant i rym ar 28 Chwefror 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau yng Nghymru.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2011.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1992” yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Cyfrifo anghenion cyllideb (awdurdodau bilio)
2 
Mae adran 32 o Ddeddf 1992 yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi ei wneud—
(a) bod y geiriau “or relevant special grant” yn is-adran (3)(a) wedi eu hepgor; a
(b) bod yr is-adran a ganlyn wedi ei mewnosod ar ôl is-adran (12)—“
(12A) In this section and section 33 below—
(a) references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.1) 2011—2012 (Final Settlement — Councils) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2) of, and paragraph 11B(1) of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 15 February 2011; and
(b) references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.”.
Cyfrifo swm sylfaenol y dreth gyngor (awdurdodau bilio)
3 
Mae adran 33(1) o Ddeddf 1992 yn cael effaith fel petai'r geiriau “or relevant special grant” yn eitem P wedi eu hepgor.
Cyfrifo anghenion cyllideb (prif awdurdodau praeseptio)
4 
Mae adran 43 o Ddeddf 1992 yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi ei wneud—
(a) yn is-adran (3)(a)(i)—
(i) bod y geiriau “relevant special grant” wedi eu hepgor; a
(ii) bod y geiriau “floor funding” wedi eu mewnosod o flaen “or police grant;”; a
(b) bod yr is-adrannau a ganlyn wedi eu mewnosod ar ôl is-adran (6D)—“
“(6E) In this section and section 44 below—
(a) references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.2) 2011—2012 (Final Settlement—Police Authorities) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2) of, and paragraph 11B(1) of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 16 February 2011; and
(b) references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.
(6F) In this section and section 44 below “floor funding” means grant payable to a major precepting authority by the Secretary of State in addition to the police grant referred to in subsection (6C).”.
Cyfrifo swm sylfaenol y dreth gyngor (prif awdurdodau praeseptio)
5 
Mae adran 44(1) o Ddeddf 1992 yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi ei wneud—
(a)  bod y geiriau “relevant special grant” yn eitem P wedi eu hepgor; a
(b) bod y geiriau “floor funding” yn eitem P wedi eu mewnosod o flaen y geiriau “or police grant;”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
16 Chwefror 2011