
2011 Rhif 435 (Cy.63)
CAFFAEL TIR, CYMRU
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2011
Gwnaed 15 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18 Chwefror 2011
Yn dod i rym 1 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 149(3)(a) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, ac a freiniwyd ynddynt hwy bellach, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Teitl y Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.
Terfyn gwerth blynyddol
2 
£34,800 yw'r swm a ragnodir at ddibenion adran 149(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2005 wedi ei ddirymu.
Ieuan Wyn Jones
Y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
15 Chwefror 2011