
2011 Rhif 433 (Cy.62)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Powys) 2011
Gwnaed 15 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18 Chwefror 2011
Yn dod i rym 1 Ebrill 2011

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004, ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru.
Mae Cyngor Sir Powys wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o'i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Dyfed Powys yn unol â gofynion paragraffau 8(3) o Atodlen 8 a 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Powys) 2011 a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.
Dynodi ardal gorfodi sifil ac ardal gorfodi arbennig
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
15 Chwefror 2011
YR ATODLEN
Ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig
Erthygl 2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r cyfan o Sir Powys ac eithrio'r darn o ffordd sydd wedi ei adeiladu o fewn Ardal Hyfforddi Pontsenni, Pontsenni yn Sir Powys sy'n rhedeg o gyffordd ffyrdd C45 ac L167 wrth bwynt tua 0.6 cilometr i'r dwyrain o Dirabad ac yn croesi Mynydd Bwlch-y-Groes mewn cyfeiriad de-orllewinol cyffredinol hyd at ei chyffordd â'r ffordd ddosbarth C49 wrth Church Hill wrth bwynt tua 1.85 cilometr i'r gogledd-orllewin o Lywel, pellter o tua 11.7 o gilometrau i gyd.
