
2011 Rhif 415 (Cy.58)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 15 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Chwefror 2011
Yn dod i rym 6 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 13(1) a (6) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) (Diwygio) 2011, a deuant i rym ar 6 Ebrill 2011.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) 2006.
Diwygio'r Atodlen i'r prif Reoliadau
2 
Mae'r Atodlen i'r prif Reoliadau wedi'i diwygio fel a ganlyn—
(1) Yng ngholofn 1 (Categori o fwyd) o'r tabl, yn y trydydd categori, mewnosoder “neu wedi'u rhewi” ar ôl y gair “ffres”; a
(2) Yng ngholofn 2 (Goleddfiad) o'r tabl, yn lle'r trydydd goleddfiad, rhodder y canlynol—“
 Ffrwythau a llysiau ffres neu wedi'u rhewi gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ffrwythau neu lysiau rhydd, wedi'u rhagbacio, cyfain, wedi'u tafellu, wedi'u torri, neu wedi'u cymysgu, ond nid ffrwythau na llysiau yr ychwanegwyd atynt fraster, halen, siwgr, cyflasyn neu unrhyw gynhwysion eraill.”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Chwefror 2011