
2011 Rhif 400 (Cy.57)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 12 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 15 Chwefror 2011
Yn dod i rym 14 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi , cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 14 Mawrth 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007
2 

(1) Mae Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1)(a), yn lle “Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005” rhodder “Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2009”.
(3) Ar ôl rheoliad 3 mewnosoder—“
Iaith ychwanegol
3A 
Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn atal potel rhag cael ei marcio na'i labelu ag unrhyw iaith arall yn ychwanegol at y Saesneg.”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
12 Chwefror 2011