
2011 Rhif 3047 (Cy.322)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2011
Gwnaed 19 Rhagfyr 2011
Yn dod i rym 9 Ionawr 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 21 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 1 o Atodlen 4 iddi a chyda chydsyniad y Trysorlys yn unol â pharagraff 1(7) o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a Chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2011 a daw i rym ar 9 Ionawr 2012.
Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau GIG
2 
Cyfalaf cychwynnol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yw £7,489,000.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
19 Rhagfyr 2011