
2011 Rhif 3046 (Cy.321) (C.116)
IECHYD MEDDWL, CYMRU A LLOEGR
Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2011
Gwnaed 18 Rhagfyr 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010;
(b) mae i “claf cymwys” yr un ystyr a roddir i “qualifying patient” yn adran 130C o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;
(c) mae i “cleifion anffurfiol cymwys Cymru” yr un ystyr a roddir i “Welsh qualifying informal patients” yn adran 130J o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Darpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 3 Ionawr 2012
2 
Mae darpariaethau canlynol y Mesur yn dod i rym ar 3 Ionawr 2012—
(a) Adran 31 (eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol: Cymru) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;
(b) Adran 32 (darpariaeth bellach ynghylch eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol ar gyfer cleifion cymwys Cymru dan orfodaeth);
(c) Adran 34 (eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol: pwerau a dyletswyddau atodol) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;
(ch) Adran 35 (cleifion cymwys Cymru dan orfodaeth);
(d) Adran 37 (dyletswydd i roi gwybodaeth am eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol i gleifion cymwys Cymru dan orfodaeth);
(dd) Adran 39 (cymhwyso cod ymarfer Deddf Iechyd Meddwl 1983 i eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol Cymru) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;
(e) Adran 40 (gweithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;
(f) Adran 44 (codau ymarfer);
(ff) Adran 53(1) (diwygiadau canlyniadol etc) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;
(g) Adran 54 (diddymiadau) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;
(ng) Atodlen 1 (diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru; ac
(h) Atodlen 2 (diddymiadau) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru.
Darpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 2 Ebrill 2012
3 
Mae darpariaethau canlynol y Mesur yn dod i rym ar 2 Ebrill 2012—
(a) Adran 31 (eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol: Cymru) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;
(b) Adran 33 (darpariaeth bellach ynghylch eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol ar gyfer cleifion anffurfiol cymwys Cymru);
(c) Adran 34 (eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol: pwerau a dyletswyddau atodol) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;
(ch) Adran 36 (cleifion anffurfiol cymwys Cymru);
(d) Adran 38 (dyletswydd i roi gwybodaeth am eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol i gleifion anffurfiol cymwys Cymru);
(dd) Adran 39 (cymhwyso cod ymarfer Deddf Iechyd Meddwl 1983 i eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol Cymru) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;
(e) Adran 40 (gweithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;
(f) Adran 53(1) (diwygiadau canlyniadol etc) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;
(ff) Adran 54 (diddymiadau) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;
(g) Atodlen 1 (diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn; ac
(ng) Atodlen 2 (diddymiadau) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn.
Darpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 8 Mai 2012
4 
Mae darpariaethau canlynol y Mesur yn dod i rym ar 8 Mai 2012—
(a) Adran 1 (ystyr “partneriaid iechyd meddwl lleol”);
(b) Adran 2 (cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol);
(c) Adran 4 (methiannau i gytuno ar gynlluniau);
(ch) Adran 5 (ystyr “gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol”);
(d) Adran 11 (cynnwys cynlluniau o dan y Rhan hon mewn cynlluniau plant a phobl ifanc);
(dd) Adran 43 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 1, 2, 4, 5 ac 11 o'r Mesur; ac
(e) Adran 45 (Rhan 1: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol).
Darpariaeth Drosiannol
5 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo claf cymwys yng Nghymru yn derbyn cymorth o dan drefniadau a wnaed o dan adran 130A o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
(2) O 3 Ionawr 2012 ymlaen mae'r cymorth hwnnw i gael ei drin fel petai wedi cael ei roi o dan drefniadau a wnaed o dan adran 130E o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Rhagfyr 2011