
2011 Rhif 2946 (Cy.319)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011
Gwnaed 6 Rhagfyr 2011
Yn dod i rym 1 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer pwerau a roddwyd gan adrannau 5(4) ac 17 o Fesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010.

Gosodwyd drafft o'r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Ebrill 2012.
Diwygiadau i Atodlen 2 i'r Mesur
2 
Mae Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Mesur wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(1) Ym mharagraff 5 o'r Atodlen yn lle'r tabl a geir yno rhodder y tabl a ganlyn—“

Anifail Cyfradd uchaf yr elfen gynhyrchu ar gyfer pob anifail
Gwartheg £ 6.91
Lloi £ 0.50
Defaid £ 1.00
Moch £ 1.67”.
(2) Ym mharagraff 6 o'r Atodlen yn lle'r tabl a geir yno rhodder y tabl a ganlyn—“

Anifail Cyfradd uchaf yr elfen gigydda neu allforio ar gyfer pob anifail
Gwartheg £ 2.12
Lloi £ 0.50
Defaid £ 0.32
Moch £ 0.40”.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
6 Rhagfyr 2011