
2011 Rhif 2880 (Cy.308)
RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU
Rheoliadau Perygl Llifogydd (Diwygio) (Cymru) 2011
Gwnaed 30 Tachwedd 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Rhagfyr 2011
Yn dod i rym 22 Rhagfyr 2011

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran rheoli perygl llifogydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Perygl Llifogydd (Diwygio) (Cymru) 2011; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 22 Rhagfyr 2011.
Diwygiadau
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3) yn lle'r geiriau “these regulations came into force” rhodder “22nd December 2010”.
(3) Yn lle rheoliad 4(2) rhodder—“
(2) “Reservoir” means a large raised reservoir as defined by the Reservoirs Act 1975.”.
(4) Yn lle rheoliad 36(2) rhodder—“
(2) The Environment Agency and an authority listed in paragraph (3) must comply with a request of a lead local flood authority or the Minister to provide information reasonably required in connection with the exercise of functions under these regulations.”.
John Griffiths
Y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
30 Tachwedd 2011