
2011 Rhif 2868 (Cy.307)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful) 2011
Gwnaed 29 Tachwedd 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 01 Rhagfyr 2011
Yn dod i rym 11 Ionawr 2012

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru ar iddynt wneud gorchymyn o dan y pwerau hyn mewn perthynas â rhan o'i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu De Cymru yn unol â gofynion paragraffau 8(3) o Atodlen 8 a 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful) 2011 a daw i rym ar 11 Ionawr 2012.
Dynodi ardal gorfodi sifil ac ardal gorfodi arbennig
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
29 Tachwedd 2011
YR ATODLEN
Erthygl 2

Yr ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r cyfan o Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac eithrio'r canlynol—
(a) y darn cyfan o'r A4060 o'i chyffordd â chylchfan Abercannaid ar yr A470 i'w chyffordd â chylchfan Dowlais ar yr A465, gan gynnwys cerbytffordd gylchredol cylchfan Pentre-bach, cylchfan Parc Busnes Triangle a chylchfan Mountain Hare;
(b) y darn hwnnw o'r A470 o'r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 320 o fetrau i'r gogledd o gylchfan Abercynon ar yr A470 i'r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 895 o fetrau i'r gogledd o gylchfan Cefn Coed, gan gynnwys cerbytffordd gylchredol cylchfan Abercannaid, cylchfan Rhyd-y-car a chylchfan Heol Abertawe;
(c) y darn hwnnw o'r A470 o'r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 351 o fetrau i'r de o'i chyffordd ag Upper High Street Cefn Coed ar yr A4054 i'r ffin â Sir Powys wrth Bont Llysiog; ac
(ch) y darn hwnnw o'r A465 o'r ffin â Bwrdeistref Sirol Caerffili wrth bwynt oddeutu 550 o fetrau i'r dwyrain o gylchfan Dowlais Top ar yr A465 i'r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth bwynt oddeutu 13 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â Ffordd Merthyr ar y B4276, gan gynnwys yr holl ffyrdd ymuno ac ymadael a cherbytffordd gylchredol cylchfan Dowlais ar yr A465/A4060, cylchfan Dowlais Top ar yr A465 a chylchfan Cefn Coed.
