
2011 No. 2842 (Cy.306) (C.100)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011
Gwnaed 23 Tachwedd 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 10 a 11 o Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Mesur" ("the Measure") yw Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.
Cychwyn drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn
2 
Yn ddarostyngedig i erthygl 3, mae'r Mesur yn dod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn..
Cychwyn ar 1 Ionawr 2012
3 
Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 1 Ionawr 2012—
(a) Adran 2(2) (dyletswydd i weithredu strategaeth);
(b) Adran 3(3) (gwybodaeth a chyngor yn unol â strategaeth i'w darparu'n ddi-dâl);
(c) Adran 6(1) i (3) (cyflwyno strategaeth ddrafft i Weinidogion Cymru);
(ch) Adran 7 (cyfle i'r cyhoedd gael gweld y strategaeth);
(d) Adran 9 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol 1970).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
23 Tachwedd 2011