
2011 Rhif 2686 (Cy.288)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 6 Tachwedd 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Tachwedd 2011
Yn dod i rym 1 Ionawr 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 12(2), 16(3), 22(2)(d), 25(1), 33 a 42(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac wedi ymgynghori â phersonau a ystyrir yn briodol ganddynt, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008.
Diwygio Rheoliadau 2008
2 

(1) Caiff Rheoliadau 2008 eu diwygio yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (Dehongli) yn y diffiniad o “y Ddeddf” (“the Act”) ar ôl y geiriau “Deddf Safonau Gofal 2000” mewnosoder y geiriau “fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd”.
(3) Yn rheoliad 3 (Personau rhagnodedig)—
(a) ym mharagraff (1) yn lle “Mae deintydd” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae deintydd”;
(b) ym mharagraff (2) yn lle “addasiad a bennir yn rheoliad 4” rhodder “addasiadau a bennir yn rheoliadau 4 a 4A”;
(c) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i ddeintydd—
(a) sydd ar restr arbenigol y gofrestr deintyddion, ac sy'n cael ei gyflogi i ddarparu gwasanaethau mewn cysylltiad â'r arbenigedd honno yn un o ysbytai'r gwasanaeth iechyd ac sy'n darparu gwasanaethau deintyddol preifat yn yr ysbyty hwnnw'n unig;
(b) sy'n darparu gwasanaethau deintyddol preifat mewn ysbyty ac at ddibenion yr ysbyty hwnnw'n unig y mae person wedi cofrestru mewn perthynas ag ef o dan Ran II o'r Ddeddf; neu
(c) sy'n darparu gwasanaethau deintyddol preifat o dan gontract hyfforddiant galwedigaethol yn unig ac sydd wedi gwneud cais i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf na chafodd ei dynnu'n ôl na'i waredu'n derfynol o fewn ystyr rheoliad 23(3);
(ch) yn is-baragraff (c) uchod mae i “hyfforddiant galwedigaethol” yr un ystyr ag sydd i “vocational training” yn rheoliad 28 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Perfformwyr) (Cymru) 2004.”.
(4) Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—
“Addasu adran 31 o'r Ddeddf (Arolygiadau gan bersonau a awdurdodir gan yr awdurdod cofrestru)
4A 
Mae adran 31(5)(a) yn cael effaith megis petai i'w darllen:“
 is a medical practitioner, registered nurse or dentist; and”
(5) Yn y rheoliadau canlynol yn Rheoliadau 2008 yn lle £50 rhodder £75—
(a) 5(1)(d);
(b) 10(2)(d); ac
(c) 17.
(6) Ar ôl rheoliad 16 mewnosoder—“
Asesu a monitro ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan gynnwys adroddiadau blynyddol
16A 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig—
(a) asesu a monitro'n rheolaidd ansawdd y gwasanaethau a ddarperir yn erbyn y gofynion a osodir yn y Rheoliadau hyn; a
(b) nodi, asesu a rheoli risgiau sy'n ymwneud ag iechyd, lles a diogelwch cleifion ac eraill.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig anfon i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru, pan ofynnir iddo wneud hynny, asesiad blynyddol ysgrifenedig (y cyfeirir ato fel yr “adroddiad blynyddol”) yn gosod ar glawr—
(a) amrediad y gwasanaethau a ddarparwyd yn y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad blynyddol ac unrhyw newidiadau a ragwelir i'r amrediad hwnnw; a
(b) sut, ac i ba raddau, ym marn y person cofrestredig, y cydymffurfir â gofynion paragraff (1), ynghyd ag unrhyw gynlluniau sydd gan y person cofrestredig i godi safon y gwasanaethau a ddarperir i gleifion gyda golwg ar sicrhau eu hiechyd a'u lles.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw'r adroddiad blynyddol yn gamarweiniol nac yn anghywir.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu'r adroddiad blynyddol i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru o fewn 28 niwrnod o gael cais i wneud hynny o dan baragraff (2).”.
(7) Yn rheoliad 19 yn lle “9 ac 14 i 16” rhodder “6, 7, 9, 14—16A ac 18”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Tachwedd 2011