
2011 Rhif 2660 (Cy.284)
CYFRAITH TROSEDD, CYMRU
Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 1 Tachwedd 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Tachwedd 2011
Yn dod i rym 5 Rhagfyr 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 6(2), (3), (4) a (9)(b) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) (Diwygio) 2011, a deuant i rym ar 5 Rhagfyr 2011.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2007” (“2007 Regulations”) yw Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) 2007.
Diwygio Rheoliadau 2007
2 
Diwygir Rheoliadau 2007 fel a ganlyn.
3 
Yn lle rheoliad 3 rhodder—“
Swyddogaethau o ran llunio a gweithredu strategaeth
3 

(1) Mae grŵp strategaeth i fod ar gyfer pob ardal, a'i swyddogaethau fydd—
(a) paratoi asesiadau strategol; a
(b) paratoi a gweithredu cynllun partneriaeth,
ar gyfer yr ardal honno ar ran yr awdurdodau cyfrifol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid i'r grŵp strategaeth gynnwys dau neu ragor o bersonau a benodwyd gan un neu ragor o'r awdurdodau cyfrifol yn yr ardal.
(3) Os oes mwy nag un awdurdod cyfrifol o'r math a bennir yn adran 5(1)(aa) o Ddeddf 1998 yn yr ardal, rhaid i'r darparwyr hynny benodi ar y cyd un neu ragor o bersonau i'r grŵp strategaeth.
(4) Mewn cyfarfod o grŵp strategaeth, caiff personau fod yn bresennol sy'n cynrychioli personau a chyrff sy'n cydweithredu ac yn cymryd rhan, ac unrhyw bersonau eraill a wahoddir gan y grŵp strategaeth.
(5) Rhaid bod gan y grŵp strategaeth drefniadau ar waith i lywodraethu adolygiad o wariant arian partneriaeth ac i asesu darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y cyfryw wariant.”.
4 
Yn rheoliad 9(a) hepgorer y geiriau “yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau gyda'r flwyddyn y cyfeirir ati yn rheoliad 8(2)”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
1 Tachwedd 2011