
2011 Rhif 2555 (Cy.279)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 25 Hydref 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Hydref 2011
Yn dod i rym 21 Tachwedd 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 11(1), (2)(b), (d), (f) a (3), 12(1) a (4), 24(1)(c) a 26(3) o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Tachwedd 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2004” yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004.
Diwygio Rheoliadau 2004
2 
Mae Rheoliadau 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn;
Diwygio rheoliad 2(1) (dehongli)
3 
Yn rheoliad 2(1)—
(a) Hepgorer y diffiniad o “y Cynulliad” (“the Assembly”);
(b) hepgorer y diffiniad o “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”);
(c) yn y mannau priodol mewnosoder—“
 ystyr “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”) yw gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdod lleol;
 ystyr “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd” (“biodegradable collected municipal waste”) yw gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd gan awdurdod lleol;”;
(ch) hepgorer y diffiniadau o—“awdurdod casglu gwastraff” (“waste collection authority”) ac “awdurdod gwaredu gwastraff” (“waste disposal authority”).
Rhoi “Gweinidogion Cymru” yn lle “y Cynulliad”
4 
Ym mhob man y mae'n digwydd yn rheoliadau 2, 11, 15 a 16 yn lle “y Cynulliad” (“the Assembly”) rhodder “Gweinidogion Cymru” (“the Welsh Ministers”).
Amnewid y term “gwastraff trefol a gasglwyd”
5 
Yn y mannau a ganlyn yn lle “gwastraff trefol” (“municipal waste”) rhodder “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”)—
(a) rheoliad 6(1)(b) ac (c);
(b) yn yr ail fan y mae'n digwydd yn rheoliad 14(2)(i);
(c) rheoliad 14(2)(ii).
Amnewid y term “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd”
6 
Ym mhob man y mae'n digwydd yn lle “gwastraff trefol pydradwy” (“biodegradable municipal waste”) rhodder “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd” (“biodegradable collected municipal waste”).
Amnewid rheoliad 8 (penderfynu faint o wastraff trefol pydradwy sydd mewn swm o wastraff)
7 
Yn lle rheoliad 8 rhodder—“
Penderfynu faint o wastraff trefol pydradwy a gasglwyd sydd mewn swm o wastraff trefol a gasglwyd
8 
Bernir bod chwe deg un y cant o'r swm o wastraff trefol a gasglwyd yn wastraff trefol pydradwy a gasglwyd.”.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2011