
2011 Rhif 2498 (Cy.271)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011
Gwnaed 18 Hydref 2011
Yn dod i rym 1 Chwefror 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 3A o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Amddiffyn rhag Tybaco) 1991.

Mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 3A(7)(b) o'r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Gwahardd gwerthu tybaco o beiriannau gwerthu
2 

(1) Gwaherddir gwerthu tybaco o beiriant awtomatig.
(2) Bydd y person sydd â rheolaeth ar y fangre y lleolir y peiriant awtomatig ynddi, neu sy'n ymwneud â rheoli'r fangre honno, yn atebol am doriad o baragraff (1).
(3) Yn y rheoliad hwn, mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le ac unrhyw gerbyd, llong, hofrenfad, stondin neu adeiledd symudol.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2011