
2011 Rhif 2415 (Cy.261)
TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011
Gwnaed 3 Hydref 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Hydref 2011
Yn dod i rym 1 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd:
(a) gan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (“Deddf 1986”) i unrhyw Weinidog a awdurdodwyd, o dan neu yn rhinwedd y darpariaethau statudol hynny a bennir yn adran 42(1) o'r Ddeddf honno neu y cymhwysir yr adran honno iddynt, i adennill costau a dynnir gan y Gweinidog mewn perthynas ag ymchwiliad, sef pwerau sy'n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru;
(b) i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”), ac sy'n arferadwy bellach, o ran ardaloedd awdurdodau cynllunio lleol penodol o fewn Cymru, gan Weinidogion Cymru; ac
(c) i'r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr awdurdod priodol, gan adran 303A(5) o Ddeddf 1990, sef pwerau sy'n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “gweithdrefn gymwys” yw gweithdrefn gymwys o fewn yr ystyr sydd i'r term “qualifying procedure” yn adran 303A(1A) o Ddeddf 1990, ac a gynhelir mewn perthynas ag ardal awdurdod cynllunio lleol y mae'r diddymiadau a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 yn effeithiol mewn cysylltiad ag ef yn unol ag erthygl 2(g) o'r Gorchymyn hwnnw;
 ystyr “ymchwiliad cymwys” yw ymchwiliad cymwys o fewn yr ystyr sydd i'r term “qualifying inquiry” yn adran 303A(1) o Ddeddf 1990 (i'r graddau y mae'r adran honno'n parhau i fod ag effaith heb y diwygiad a fewnosodir gan adran 118 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“Deddf 2004”) a pharagraff 11(2) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno), ac a gynhelir mewn perthynas ag ardal awdurdod cynllunio lleol y mae'r darpariaethau a bennir yn Atodlen 2 i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag ef yn unol ag erthygl 3(3) o'r Gorchymyn hwnnw;
 ystyr “ymchwiliad lleol” (“local inquiry”) yw ymchwiliad y mae gan Weinidogion Cymru hawl i adennill eu costau mewn perthynas ag ef o dan neu yn rhinwedd adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (darpariaeth gyffredinol o ran costau ymchwiliadau) neu adran 69(5) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno).
Y personau, yr ymchwiliadau a'r gweithdrefnau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
3 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—
(a) ymchwiliad lleol; a
(b) unrhyw berson sydd wedi'i benodi gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad cymwys, neu wedi'i benodi fel un o'r personau a benodwyd felly, ac sydd i gynnal ymchwiliad cymwys; ac
(c) unrhyw berson sydd wedi'i benodi gan Weinidogion Cymru i gynnal gweithdrefn gymwys.
Y swm dyddiol safonol ar gyfer ymchwiliadau lleol
4 
Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf 1986 ar gyfer ymchwiliad lleol sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £742.
Y swm dyddiol safonol ar gyfer ymchwiliadau cymwys
5 
Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 303A(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer ymchwiliad cymwys sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £679.
Y swm dyddiol safonol ar gyfer gweithdrefnau cymwys
6 
Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 303A(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer gweithdrefn gymwys sy'n agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012 yw £679.
Dirymiadau ac arbedion
7 
Dirymir Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2007 ac eithrio mewn perthynas ag ymchwiliad yr oedd y Rheoliadau hynny yn gymwys iddo, a agorodd cyn 1 Ebrill 2012 ac sy'n parhau'n agored ar ôl y dyddiad hwnnw ac mewn perthynas â gweithdrefn gymwys a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2012 ac sy'n parhau ar ôl y dyddiad hwnnw.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
3 Hydref 2011