
2011 Rhif 2378 (Cy.251)
ANIFEILIAID, CYMRU
Rheoliadau'r Cynllun Iechyd Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2011
Gwnaed 28 Medi 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Medi 2011
Yn dod i rym 19 Hydref 2011
Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973 ac a freinir bellach ynddynt hwy.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Iechyd Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2011. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 19 Hydref 2011.
Ffioedd mewn perthynas â'r cynllun iechyd dofednod
2 

(1) Y ffi am gymeradwyaeth at ddibenion y cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan baragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 yw £60 am gymeradwyaeth ddechreuol, ynghyd â ffi flynyddol o—
(a) £62 ar gyfer haid neu ddeorfa; neu
(b) £70 ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa ar un safle.
(2) Os cyflawnir yr arolygiad blynyddol o dan y paragraff hwnnw gan swyddog Gweinidogion Cymru, y ffi am bob arolygiad (yn ychwanegol at y ffi flynyddol) yw—
(a) £97 ar gyfer haid neu ddeorfa; neu
(b) £143 ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa ar un safle.
(3) Y ffi am gymeradwyo, o dan y paragraff hwnnw, labordy sy'n cynnal profion diagnostig ar gyfer aelodau o'r cynllun iechyd dofednod yw—
(a) £13 am brosesu cais am gymeradwyaeth; a
(b) £31 am brosesu dogfennaeth gofrestru flynyddol.
Ffi am brofi hyfedredd labordy
3 
Mae'r ffi sy'n daladwy gan labordy cymeradwy am y profion hyfedredd canlynol a gynhelir gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a'r Labordai Milfeddygol o dan baragraff 2 o Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC (ar amodau iechyd anifeiliaid, sy'n llywodraethu'r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd) fel a ganlyn.

Tabl 1
Prawf hyfedredd Ffi(£)
Bacterioleg Salmonella (pullorum, gallinarum, arizonae) 131
Seroleg Salmonella (pullorum, gallinarum) 336
Seroleg ieir Mycoplasma (gallisepticum) 336
Meithriniad Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis) 281
Seroleg tyrcïod Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis) 336
Amser talu
4 
Mae'r ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru pan ofynnir am y tâl.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
28 Medi 2011