
2011 Rhif 2362 (Cy.248) (C.83)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011
Gwnaed 27 Medi 2011
Yn dod i rym 1 Chwefror 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a gynhwysir yn adran 40(2)(b) o Ddeddf Iechyd 2009.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2009.
Diwrnod penodedig
2 
1 Chwefror 2012 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym adran 22 o'r Ddeddf i'r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
27 Medi 2011