
2011 Rhif 233 (Cy.45)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 5 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Chwefror 2011
Yn dod i rym 1 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a) a (2)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop, ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd wrth baratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011, a deuant i rym ar 1 Mawrth 2011.
Diwygiad i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2009
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2009 yn unol â pharagraff (2).
(2) Ar ôl rheoliad 21 (amddiffyniad trosiannol ynglŷn â gasgedi PVC sy'n cynnwys olew ffa soia wedi ei epocsideiddio), mewnosoder y canlynol fel rheoliad 21A—“
Transitional defences relating to infant feeding bottles containing Bisphenol A
21A 

(1) In any proceedings for an offence under regulation 3 in connection with the sale or import into the EU of a polycarbonate infant feeding bottle which fails to meet the required standard it shall be a defence to prove that the plastic material or article —
(a) was placed on the market or as the case may be imported in to the EU before 1st June 2011; and
(b) complied with these Regulations as they stood immediately before the amendment made to Annex II to the Directive by Commission Directive 2011/8/EU.
(2) In any proceedings for an offence under regulation 4 in connection with the use of Bisphenol A in the manufacture of a polycarbonate infant feeding bottle it shall be a defence to prove that the plastic material or article —
(a) was manufactured before 1st March 2011; and
(b) complied with these Regulations as they stood immediately before the amendment made to Annex II to the Directive by Commission Directive 2011/8/EU.
(3) In this regulation Commission Directive 2011/8/EU means Commission Directive 2011/8/EU amending Directive 2002/72/EC as regards the restriction of use of Bisphenol A in plastic infant feeding bottles.”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
5 Chwefror 2011