
2011 Rhif 226 (Cy.44)
CLEFYDAU GWENYN, CYMRU
Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 1 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Chwefror 2011
Yn dod i rym 28 Chwefror 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 1 o Ddeddf Gwenyn 1980.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) (Diwygio) 2011. Mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 28 Chwefror 2011.
Diwygiadau
2 

(1) Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle erthygl 11 rhodder—“
Gwenyn a fewnforir
11 

(1) Pan fo llwythi o famwenyn a grybwyllir yn Erthygl 7(3)(a) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010 yn cyrraedd y gyrchfan derfynol ddynodedig o drydedd wlad neu diriogaeth a grybwyllir yn Erthygl 7(1) o'r Rheoliad hwnnw, rhaid i'r traddodai—
(a) eu trosglwyddo i gewyll newydd yn unol ag Erthygl 13(1) o'r Rheoliad hwnnw; a
(b) anfon y cewyll, y gwenyn sy'n gweini ar y mamwenyn a'r deunyddiau eraill a ddaeth gyda'r mamwenyn hynny o'r drydedd wlad y tarddodd y llwythi ohoni i labordy yn unol ag Erthygl 13(2) o'r Rheoliad hwnnw.
(2) Pan fo llwythi o gacwn a grybwyllir yn Erthygl 7(3)(b) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010 yn cael eu cyflwyno i Gymru o drydedd wlad neu diriogaeth a grybwyllir yn Erthygl 7(1) o'r Rheoliad hwnnw, rhaid i'r perchennog neu'r person sydd â gofal dros y cacwn hynny ddifa'r cynhwysydd a'r deunyddiau a ddaeth gyda hwy o'r drydedd wlad y tarddodd y llwythi ohoni yn unol â thrydydd paragraff Erthygl 13(3) o'r Rheoliad hwnnw.
(3) Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 13(1) a (2) o'r Rheoliad hwnnw.
(4) At ddibenion yr erthygl hon—
(a) ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010” (“Commission Regulation (EU) No 206/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010 sy'n gosod rhestrau o drydydd gwledydd, tiriogaethau neu rannau ohonynt sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer cyflwyno i'r Undeb Ewropeaidd anifeiliaid penodol a chig ffres a'r gofynion o ran tystysgrifau milfeddygol;
(b) ystyr “y traddodai” (“the consignee”) yw'r traddodai a nodir ar y dystysgrif filfeddygol sy'n mynd gyda'r gwenyn yn unol ag Erthygl 7(4)(a) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010; ac
(c) mae i “cyrchfan derfynol ddynodedig” yr un ystyr yn yr erthygl hon ag ystyr “designated place of final destination” yn Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 206/2010.”.
(3) Yn erthygl 12(1), ar ôl “pla hysbysadwy”, mewnosoder “neu glefyd hysbysadwy”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
1 Chwefror 2011