
2011 Rhif 2184 (Cy.236)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 2 Medi 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Medi 2011
Yn dod i rym 1 Hydref 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77(2) a 90(3)(a) o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 a pharagraffau 1, 2, 4, 7, 9 a 10 o Atodlen 6 iddi.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010.
Diwygio Rheoliadau 2010
2 

(1) Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
Diwygio rheoliad 2 (dehongli)
3 

(1) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn lle'r diffiniad o “y tâl” (“the charge”) rhodder—“
 ystyr “y tâl” (“the charge”) yw isafswm y gydnabyddiaeth y mae'n rhaid i gwsmer ei thalu yn rhinwedd rheoliad 6(2);”;
(b) mewnosoder yn y mannau priodol—“
(i) mae “cydnabyddiaeth” (“consideration”) yn cynnwys unrhyw TAW y gellir ei godi;”;“
(ii) mae i “TAW” (“VAT”) yr ystyr a roddir i “VAT” yn adran 96 o Ddeddf Treth ar Werth 1994.”.
Diwygio rheoliad 6 (gofyniad i godi tâl)
4 
Yn lle rheoliad 6 rhodder—“
Gofyniad i godi tâl
6 

(1) Rhaid i werthwr godi tâl am bob bag siopa untro newydd a gyflenwir—
(a) yn y lle yng Nghymru lle y gwerthir y nwyddau, at ddibenion galluogi'r nwyddau i gael eu cymryd oddi yno;
(b) at ddibenion galluogi'r nwyddau i gael eu cyflenwi i bersonau yng Nghymru.
 Mae hyn yn ddarostyngedig i reoliad 7.
(2) Y swm y mae'n rhaid i werthwr ei godi yw'r swm hwnnw sy'n sicrhau bod y gydnabyddiaeth a delir gan gwsmer am bob bag siopa untro ddim llai na 5 ceiniog.”.
Ychwanegu rheoliad 7A (cymhwyso Rhan 3)
5 
Yn Rhan 3 (cofnodion a chyhoeddi) o flaen rheoliad 8 (cadw cofnodion) mewnosoder—“
Cymhwyso'r Rhan hon
7A 

(1) Mae'r Rhan hon yn gymwys i werthwr mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn adrodd y mae'r gwerthwr yn bodloni'r amod ym mharagraff (2) ynddi.
(2) Yr amod yw bod y gwerthwr yn cyflogi staff sy'n cyfateb i ddeg aelod llawnamser neu fwy ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn adrodd.”.
Amnewid rheoliad 8 (cadw cofnodion)
6 
Yn lle rheoliad 8, rhodder—“
Cadw cofnodion
8 

(1) Rhaid i werthwr gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) ar gyfer pob blwyddyn adrodd.
(2) Rhaid i werthwr ddal gafael ar gofnodion am gyfnod o dair blynedd gan gychwyn ar 31 Mai yn y flwyddyn adrodd yn dilyn honno y mae cofnod yn berthnasol iddi.
(3) Dyma'r wybodaeth—
(a) nifer y bagiau siopa untro a gyflenwir sy'n denu'r tâl;
(b)  y swm a gafwyd yn gydnabyddiaeth am fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl ;
(c) y swm a gafwyd drwy'r tâl a godwyd;
(ch) enillion net y tâl;
(d) dadansoddiad o sut y daethpwyd at y swm sy'n cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng y swm a gafwyd drwy'r tâl a godwyd ac enillion net y tâl, gan gynnwys—
(i) y dosraniad rhwng unrhyw TAW y gellir ei chodi a chostau rhesymol;
(ii) y dosraniad rhwng pennau gwahanol o gostau rhesymol;
(dd) at ba ddibenion y defnyddiwyd enillion net y tâl.
(4) Y canlynol yw'r symiau penodedig at ddibenion y diffiniad o “net proceeds of the charge” ym mharagraff 7(4) Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008—
(a) unrhyw swm sy'n fwy na'r tâl a gafwyd yn gydnabyddiaeth am fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl;
(b) unrhyw swm o TAW y gellir ei chodi a gafwyd drwy'r tâl;
(c) swm unrhyw gostau rhesymol.
(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “costau rhesymol” (“reasonable costs”) yw—
(a) costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;
(b) costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gyfathrebu gwybodaeth am y tâl i gwsmeriaid.
 Mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (6).
(6) Mewn perthynas â'r flwyddyn adrodd gyntaf, mae “costau rhesymol” yn cynnwys costau yr aeth gwerthwr iddynt cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym—
(a) i alluogi'r gwerthwr i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;
(b) i alluogi'r gwerthwr i gyfathrebu gwybodaeth am y tâl i gwsmeriaid.”.
Diwygio rheoliad 13 (cyfuniad o gosbau)
7 
Yn lle rheoliad 13(1) rhodder —“
(1) Ni chaiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad sy'n ymwneud â chosb ariannol benodedig i werthwr yn unrhyw un neu ragor o'r amgylchiadau canlynol—
(a) pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn wedi cael ei osod ar y gwerthwr hwnnw mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau hyn;
(b) pan fo'r gwerthwr wedi rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau hyn drwy dalu swm penodedig;
(c) pan fo cosb ariannol benodedig eisoes wedi ei gosod mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.”.
Diwygio Atodlen 1 (esemptiadau)
8 

(1) Ym mharagraff 1(1) o Atodlen 1—
(a) o flaen paragraff (a) mewnosoder—“
(za) bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys un neu fwy o eitemau o'r mathau canlynol—
(i) bwyd heb ei becynnu ar gyfer ei fwyta gan bobl neu gan anifeiliaid;
(ii) hadau, bylbiau, cormau neu risomau rhydd heb eu pecynnu;
(iii) unrhyw fwyell, cyllell, llafn cyllell neu lafn rasel heb eu pecynnu;
(iv) nwyddau heb eu pecynnu a halogwyd gan bridd;
(v) eitemau o'r categorïau a bennir yn is-baragraff (2);”
(b) hepgorer paragraffau (a) i (ch) ac (dd);
(c) yn lle paragraff (ff) , rhodder—“
(ff) bagiau anfon archeb drwy'r post a bagiau negeseuwyr;”;
(ch) hepgorer is-baragraff (k).
(2) Ym mharagraff 1(2)(b) o Atodlen 1 hepgorer y geiriau “neu pan gyflenwir”.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
2 Medi 2011