
2011 Rhif 211 (Cy.42) (C.11)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 (Cychwyn) 2011
Gwnaed 2 Chwefror 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 14(3) o Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 (Cychwyn) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” yw Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008.
Y dyddiad penodedig
2 
Mae darpariaethau'r Mesur a osodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i ddod i rym ar 7 Chwefror 2011.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
2 Chwefror 2011
YR ATODLEN
Darpariaethau Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 sy'n Dod i Rym ar 7 Chwefror 2011
Erthygl 2



Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 1 Pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar gyfer iawn am gamweddau'r GIG
Adran 2 Iawn o dan y rheoliadau
Adran 3 Ymofyn am Iawn
Adran 4 Dyletswydd i ystyried y posibilrwydd o gymhwyso trefniadau iawn
Adran 5 Dull darparu iawn
Adran 6 Atal dros dro gyfnod y cyfyngiad
Adran 7 Cyngor cyfreithiol, etc.
Adran 8 Cymorth i unigolion sy'n ceisio iawn
Adran 9 Swyddogaethau o ran trefniadau iawn
Adran 10 Cwynion
Adran 11 Gorchmynion a rheoliadau
Adran 12 Pŵer i wneud darpariaeth atodol a chanlyniadol bellach etc.
Adran 13 Dehongli
