
2011 Rhif 2011 (Cy.221) (C.74)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011
Gwnaed 9 Awst 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 178(3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.
Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Awst 2011
2 
Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 31 Awst 2011—
(a) adrannau 1 i 3 (arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr);
(b) adran 141 (y Panel);
(c) adran 142 (swyddogaethau sy'n ymwneud â thaliadau i aelodau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;
(ch) adran 143 (swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau aelodau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;
(d) adran 144 (awdurdodau perthnasol, aelodau etc.);
(dd) adran 145 (adroddiadau blynyddol) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;
(e) adran 146 (yr adroddiad blynyddol cyntaf);
(f) adran 148 (ymgynghori ar adroddiadau drafft) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;
(ff) adran 149 (cyfarwyddiadau i amrywio adroddiadau drafft) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;
(g) adran 150 (gofynion gweinyddol mewn adroddiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;
(ng) adran 151 (gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;
(h) adran 152 (rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;
(i) adran 154 (aelodau sy'n dymuno ymwrthod â'u hawl i gael taliadau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;
(j) is-adrannau (2), (3) a (4) o adran 155 (peidio â gwneud taliadau) i'r graddau y maent yn ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;
(l) adran 156 (cyfarwyddiadau i gydymffurfio â gofynion) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;
(ll) adran 157 (canllawiau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;
(m) adran 158 (y pŵer i wneud addasiadau i ddarpariaeth ynghylch y Panel);
(n) adran 161 (canllawiau ynghylch cydlafurio rhwng awdurdodau gwella Cymreig);
(o) adrannau 162 i 171 (cyfuno);
(p) Atodlen 2 (y Panel).
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Un o Weinidogion Cymru
9 Awst 2011