
2011 Rhif 197 (Cy.40)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 24 Ionawr 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2 Chwefror 2011
Yn dod i rym 28 Chwefror 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 45(1)(d), (9) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ar gyfer blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar ac ar ôl 1 Ebrill 2011.
Eiddo sy'n atebol am ardrethi eiddo heb ei feddiannu
2 
Yn rheoliad 4(e) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008, yn lle “£2,200” rhodder “£2,600”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2011