
2011 Rhif 1951 (Cy.215) (C.70)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2) 2011
Gwnaed 29 Gorffennaf 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 26 o Fesur Addysg (Cymru) 2009, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2) 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Mesur 2009” (“the 2009 Measure”) yw Mesur Addysg (Cymru) 2009.
Cychwyn
2 
Mae adrannau 21 (Y cyfnod sylfaen) a 22 (Hawliau mewn perthynas â'r cwricwlwm lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed) o Fesur 2009 i ddod i rym ar 1 Medi 2011.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Gorffennaf 2011