
2011 Rhif 1864 (Cy.202)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Tai (Benthyciadau Ffioedd Gwasanaeth) (Diwygio) (Cymru) 2011
Gwnaed 26 Gorffennaf 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Gorffennaf 2011
Yn dod i rym 19 Awst 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 450B a 450C o Ddeddf Tai 1985, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Benthyciadau Ffioedd Gwasanaeth) (Diwygio) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 19 Awst 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Tai (Benthyciadau Ffioedd Gwasanaeth) 1992.
Telerau benthyca
2 
Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio drwy roi'r canlynol yn lle paragraff (2) o reoliad 6 (telerau benthyca)—“
(2) A loan made by virtue of regulation 5 may be made on terms that—
(a) do not require the payment of interest; or
(b) require the payment of interest only on part of the loan;
and shall otherwise, subject to paragraph (3), be on such terms as the lender may determine.”.
Cyfradd y llog
3 
Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio, ym mharagraff 1 o Atodlen 2, drwy fewnosod ar ôl y gair “loan” y geiriau “or the part of it on which interest is payable”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru
26 Gorffennaf 2011