
2011 Rhif 1849 (Cy.199)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2011
Gwnaed 25 Gorffennaf 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Gorffennaf 2011
Yn dod i rym 15 Awst 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (c), 17(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac a freinir bellach ynddynt hwy.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, rhoesant sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 15 Awst 2011.
Diwygio Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993 yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ar ddiwedd y tabl yn Atodlen 2 (bwydydd y ceir defnyddio ynddynt doddyddion echdynnu penodol, at ddibenion penodol yn unig), mewnosoder y cofnodion canlynol —“

Column 1 Column 2 Column 3 Column 4

10 
Defatted protein products products Dimethyl ether Preparation of defatted animal protein 0.009 mg/kg in the defatted protein products”
(3) Ar ddiwedd y tabl yn Atodlen 3 (gweddillion uchaf o doddyddion echdynnu a ganiateir mewn bwydydd o ganlyniad i ddefnyddio, yn y bwydydd hynny, fwyd sy'n cynnwys cyflasynnau a baratowyd o ddeunyddiau cyflasu naturiol gan ddefnyddio'r toddyddion echdynnu hynny), mewnosoder y cofnodion canlynol—“

Column 1 Column 2
Methanol 1.5 mg/kg
Propan-2-ol 1 mg/kg”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Gorffennaf 2011