
2011 Rhif 1769 (Cy.196)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 15 Gorffennaf 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Gorffennaf 2011
Yn dod i rym 1 Medi 2011
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 135 a 145(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 1 Medi 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005
2 

(1) Mae Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(2) rhodder “gyrraedd y cyfryw safonau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu cymeradwyo” yn lle'r geiriau “gwblhau unrhyw gwrs hyfforddiant y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gymeradwyo”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
15 Gorffennaf 2011