
2011 Rhif 1713 (Cy.193)
ADEILADU, CYMRU
Gorchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru) 2011
Gwnaed 12 Gorffennaf 2011
Yn dod i rym 1 Hydref 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 106A(2) a 146(1) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (“y Ddeddf”) sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 106A(4)(b) o'r Ddeddf, cafodd drafft o'r Gorchymyn hwn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo drwy gynnig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru) 2011. Daw i rym ar 1 Hydref 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran contract adeiladu i'r graddau y mae'n ymwneud â gwneud gwaith adeiladu yng Nghymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996; ac
 mae'r cyfeiriad at “contract perthnasol” (“relevant contract”) yn gyfeiriad at gontract sydd wedi'i hepgor o weithrediad Rhan 2 o'r Ddeddf yn unol ag erthygl 4 o Orchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998.
Is-gontractau'r fenter cyllid preifat
3 
Mae contract adeiladu wedi'i hepgor o weithrediad adran 110(1A) o'r Ddeddf os yw'n gontract y mae parti i gontract perthnasol wedi is-gontractio i drydydd parti rai neu'r cyfan o'i rwymedigaethau o dan y contract hwnnw i wneud gwaith adeiladu, neu drefnu bod eraill yn ei wneud yn unol ag ef.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
12 Gorffennaf 2011