
2011 Rhif 1706 (Cy.192)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 11 Gorffennaf 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 July 2011
Yn dod i rym 3 Awst 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 11(2)(d) ac 11(3) o Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2011, a deuant i rym ar 3 Awst 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wasanaethau a ddarperir fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011.
Diwygio'r prif Reoliadau
2 

(1) Yn rheoliad 1(2) yn lle “1 Hydref 2011” rhodder “1 Ebrill 2012”.
(2) Yn lle rheoliad 52(5) rhodder: “Ni fydd cwynion ynghylch gwasanaethau a ddarparwyd gan gyrff GIG Lloegr, cyrff GIG yr Alban neu gyrff GIG Gogledd Iwerddon, fel y'u diffinnir yn rheoliad 34, cyn 1 Ebrill 2012 yn cael eu hystyried o dan Ran 7 o'r Rheoliadau hyn.”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Gorffennaf 2011