
2011 Rhif 1666 (Cy.190)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2011
Gwnaed 6 Gorffennaf 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Gorffennaf 2011
Yn dod i rym 2 Awst 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(2), 3(1), 4(3) a (4), 5(2), 7(2), 10(4)(f), 12 a 17(2) o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 2 Awst 2011.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliadau Ffioedd” (“the Charges Regulations”) yw Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011; ac
 ystyr “y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol Gofal Cymdeithasol” (“the Social Care Direct Payments Regulations”) yw Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio'r Rheoliadau Ffioedd
2 

(1) Diwygir y Rheoliadau Ffioedd yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) ym mharagraffau (a) a (b) o'r diffiniad o “hawlogaeth sylfaenol” (“basic entitlement”), yn y testun Saesneg, yn lle “is it” rhodder “it is”;
(b) yn y diffiniad o “mewn ysgrifen” (“in writing”), yn y testun Cymraeg, yn lle “eiriau a ffigurau” rhodder “eiriau neu ffigurau”.
(3) Ym mharagraff (1)(a) o reoliad 4 (defnyddwyr gwasanaeth na chaniateir gosod ffioedd arnynt a gwasanaethau na chaniateir gosod ffioedd mewn perthynas â hwy), yn lle “Creuzfeldt Jacob” rhodder “Creuztfeldt-Jakob”.
(4) Yn rheoliad 7 (gwahoddiad i ofyn am asesiad modd), yn y testun Cymraeg—
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “gan” rhodder “y mae'n rhaid iddo”;
(b) ym mharagraff (1)(b)(iv), mewnosoder “am wasanaethau” rhwng “rhesymol” ac “y caniateir”;
(c) ym mharagraff (1)(g), yn lle “ag ef” rhodder “â hwy”.
Diwygio'r Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol Gofal Cymdeithasol
3 

(1) Diwygir y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol Gofal Cymdeithasol yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—
(a) ym mharagraffau (a) a (b) o'r diffiniad o “hawlogaeth sylfaenol” (“basic entitlement”), yn y testun Saesneg, yn lle “is it” rhodder “it is”;
(b) yn y diffiniad o “cyfleuster ymweliadau cartref” (“home visiting facility”), yn y testun Cymraeg, yn lle “chartref neu breswylfa” rhodder “phreswylfa”;
(c) yn y diffiniad o “mewn ysgrifen” (“in writing”), yn y testun Cymraeg, yn lle “eiriau a ffigurau” rhodder “eiriau neu ffigurau”;
(ch) yn y diffiniad o “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”), yn y testun Cymraeg, ar ôl “ddarperir” mewnsoder “neu a sicrheir”.
(3) Ym mharagraff (1)(a) o reoliad 4 (personau a gwasanaethau na chaniateir gwneud ad-daliad neu gyfraniad yn ofynnol ganddynt), yn lle “Creuzfeldt Jacob” rhodder “Creuztfeldt-Jakob”.
(4) Yn rheoliad 7 (gwahoddiad i ofyn am asesiad modd), yn y testun Cymraeg—
(a) ym mharagraff (4)(b), yn lle “gan” rhodder “y mae'n rhaid iddo”;
(b) ym mharagraff (4)(d), yn lle “is-baragraff (dd)” rhodder “is-baragraff (ch)”;
(c) ym mharagraff (4)(ff), yn lle “ag ef” rhodder “â hwy”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Gorffennaf 2011